Gorchestion Beirdd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B dolen |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Gorchestion Beirdd Cymru.JPG|250px|bawd|''Gorchestion Beirdd Cymru'' - wynebddalen argraffiad 1773]] |
[[Delwedd:Gorchestion Beirdd Cymru.JPG|250px|bawd|''Gorchestion Beirdd Cymru'' - wynebddalen argraffiad 1773]] |
||
[[Blodeugerddi Cymraeg|Blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg]] glasurol yw '''''Gorchestion Beirdd Cymru'''''. Fe'i cyhoeddwyd gan [[Rhys Jones o'r Blaenau]] yn y flwyddyn [[1773]]. Oherwydd ei hymylon gwyn llydan cafodd y gyfrol ei llysenwi 'Y Bais Wen'. Mae'n un o'r blodeugerddi pwysicaf a mwyaf dylanwadol i'w chyhoeddi yn y [[Gymraeg]] erioed. Cafodd ei hargraffu gan [[Stafford Prys]] yn [[ |
[[Blodeugerddi Cymraeg|Blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg]] glasurol yw '''''Gorchestion Beirdd Cymru'''''. Fe'i cyhoeddwyd gan [[Rhys Jones o'r Blaenau]] yn y flwyddyn [[1773]]. Oherwydd ei hymylon gwyn llydan cafodd y gyfrol ei llysenwi 'Y Bais Wen'. Mae'n un o'r blodeugerddi pwysicaf a mwyaf dylanwadol i'w chyhoeddi yn y [[Gymraeg]] erioed. Cafodd ei hargraffu gan [[Stafford Prys]] yn [[Amwythig]]. |
||
Er gwaethaf diffygion testunol - yn bennaf am fod y golygydd yn gweithio heb fedru cymharu'r cerddi â chopiau sydd ar gael mewn [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau eraill]] - roedd y gyfrol yn gampwaith am ei gyfnod. Yn ogystal a detholiad o destunau o waith y [[Cynfeirdd]], ceir detholiad da o waith y [[cywyddwyr]], o [[Dafydd ap Gwilym|Ddafydd ap Gwilym]] i [[Wiliam Llŷn]]. |

Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Er bod rhai o fawrion y byd ymhlith y tanysgrifwyr, fel y llenor [[Samuel Johnson]], er gwaethaf y pris sylweddol ceir enwau nifer o bobl gyffredin yn y rhestr, yn feirdd, porthmyn, tafarnwyr, offeiriaid lleol, siopwyr a hyd yn oed garddwr ystâd Cors-y-Gedol. |

Ail-gyhoeddwyd y ''Gorchestion'' yn [[1864]] dan olygyddiaeth [[Robert Elis (Cynddelw)]] a daeth y casgliad yn adnabyddus i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac ysgolheigion. |
Ail-gyhoeddwyd ac ehangwyd y ''Gorchestion'' yn [[1864]] dan olygyddiaeth [[Robert Elis (Cynddelw)]] a daeth y casgliad yn adnabyddus i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac ysgolheigion. |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 22:03, 21 Medi 2010
Blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg glasurol yw Gorchestion Beirdd Cymru. Fe'i cyhoeddwyd gan Rhys Jones o'r Blaenau yn y flwyddyn 1773. Oherwydd ei hymylon gwyn llydan cafodd y gyfrol ei llysenwi 'Y Bais Wen'. Mae'n un o'r blodeugerddi pwysicaf a mwyaf dylanwadol i'w chyhoeddi yn y Gymraeg erioed. Cafodd ei hargraffu gan Stafford Prys yn Amwythig.
Er gwaethaf diffygion testunol - yn bennaf am fod y golygydd yn gweithio heb fedru cymharu'r cerddi â chopiau sydd ar gael mewn llawysgrifau eraill - roedd y gyfrol yn gampwaith am ei gyfnod. Yn ogystal a detholiad o destunau o waith y Cynfeirdd, ceir detholiad da o waith y cywyddwyr, o Ddafydd ap Gwilym i Wiliam Llŷn.
Ei theitl llawn yw:
- Gorchestion / Beirdd Cymru: / neu / Flodau / Godidogrwydd Awen. / Wedi eu lloffa, a'u dethol, allan o waith rhai o'r Awduriaid ardder- / choccaf a fu erioed yn yr Iaith Gymraeg.
Fe'i cyflwynir i William Vaughan, ysgwier Cors-y-Gedol a Nannau (ger Dolgellau), a etifeddodd gasgliad anferth o hen lawysgrifau Cymraeg gan ei hendaid Robert Vaughan. Bwriad Rhys oedd dangos i'r byd peth o etifeddiaeth gyfoethog y Gymraeg a hefyd i godi safonau llneyddol ei ddydd trwy esiampl gwaith meistri mawr y gorffennol.
Er bod rhai o fawrion y byd ymhlith y tanysgrifwyr, fel y llenor Samuel Johnson, er gwaethaf y pris sylweddol ceir enwau nifer o bobl gyffredin yn y rhestr, yn feirdd, porthmyn, tafarnwyr, offeiriaid lleol, siopwyr a hyd yn oed garddwr ystâd Cors-y-Gedol.
Ail-gyhoeddwyd ac ehangwyd y Gorchestion yn 1864 dan olygyddiaeth Robert Elis (Cynddelw) a daeth y casgliad yn adnabyddus i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac ysgolheigion.
Gweler hefyd
- Gorchest y Beirdd (mesur)