Stafford Prys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Argraffydd a gwerthwr llyfrau oedd '''Stafford Prys''' ([[1732]] - [[1784]]). Yn ei gyfnod ef, prin oedd y llyfrau a argraffwyd yng [[Cymru|Nghymru]] a daeth gwasg Prys yn [[Amwythig]] yn un o brif argraffweisg Cymraeg y 18fed ganrif, yn enwedig ar gyfer [[Gogledd Cymru]]. |
Argraffydd a gwerthwr llyfrau oedd '''Stafford Prys''' ([[1732]] - [[1784]]). Yn ei gyfnod ef, prin oedd y llyfrau a argraffwyd yng [[Cymru|Nghymru]] a daeth gwasg Prys yn [[Amwythig]] yn un o brif argraffweisg Cymraeg y 18fed ganrif, yn enwedig ar gyfer [[Gogledd Cymru]]. |
||
Cymro oedd Prys, yn fab i'r meddyg Stafford Price o blwyf [[Llanwnnog]], [[Maldwyn]] a'i wraig Mary Evans, o dras teulu [[Stradlingiaid]] [[Morgannwg]]. Ni wyddys os cafodd ei eni yng Nghymru neu yn [[Swydd Amwythig]]. Treuliodd ran helaeth ei oes dros y ffin yn Amwythig lle sefydlodd siop lyfrau a hefyd argraffwasg, a sefydlodd yn 1758. Priododd Ann (1737-1826), merch Thomas Bright o |
Cymro oedd Prys, yn fab i'r meddyg Stafford Price o blwyf [[Llanwnnog]], [[Maldwyn]] a'i wraig Mary Evans, o dras teulu [[Stradlingiaid]] [[Morgannwg]]. Ni wyddys os cafodd ei eni yng Nghymru neu yn [[Swydd Amwythig]]. Treuliodd ran helaeth ei oes dros y ffin yn Amwythig lle sefydlodd siop lyfrau a hefyd argraffwasg, a sefydlodd yn 1758. Priododd Ann (1737-1826), merch Thomas Bright o Amwythig. Ar ôl marwolaeth Prys yn 1784 parhaodd ei weddw i redeg y busnes teuluol am gyfnod.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-PRYS-STA-1732.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]</ref> |
||
==Llyfrau== |
==Llyfrau== |
Fersiwn yn ôl 21:47, 21 Medi 2010
Argraffydd a gwerthwr llyfrau oedd Stafford Prys (1732 - 1784). Yn ei gyfnod ef, prin oedd y llyfrau a argraffwyd yng Nghymru a daeth gwasg Prys yn Amwythig yn un o brif argraffweisg Cymraeg y 18fed ganrif, yn enwedig ar gyfer Gogledd Cymru.
Cymro oedd Prys, yn fab i'r meddyg Stafford Price o blwyf Llanwnnog, Maldwyn a'i wraig Mary Evans, o dras teulu Stradlingiaid Morgannwg. Ni wyddys os cafodd ei eni yng Nghymru neu yn Swydd Amwythig. Treuliodd ran helaeth ei oes dros y ffin yn Amwythig lle sefydlodd siop lyfrau a hefyd argraffwasg, a sefydlodd yn 1758. Priododd Ann (1737-1826), merch Thomas Bright o Amwythig. Ar ôl marwolaeth Prys yn 1784 parhaodd ei weddw i redeg y busnes teuluol am gyfnod.[1]
Llyfrau
Ymhlith y llyfrau a phamffledi niferus a argaffwyd ganddo, gellir nodi:
- Blodeu-gerdd Cymry (1759; ail argraffiad 1779), blodeugerdd Gymraeg a gyhoeddwyd gan Dafydd Jones o Drefriw,[2]
- Gorchestion Beirdd Cymru (1773), casgliad pwysig o gerddi canoloesol a gyhoeddwyd gan Rhys Jones o'r Blaenau. Mae'n llyfr ffolio cain y cyfeirir ato yn draddodiadol fel "Y Bais Wen" oherwydd yr ymylon mawr gwyn o gwmpas y testun.
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein
- ↑ William Rowlands, Llyfryddiaeth y Cymry (1869).
Darllen pellach
- Ifano Jones, A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923 (1925)
- Llewelyn C. Lloyd , 'The Book-Trade in Shropshire', Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society (1935, 1936).