Ynys Robben: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: eu:Robben Uhartea
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: yo:Erékùṣù Robben
Llinell 43: Llinell 43:
[[sw:Robben Island]]
[[sw:Robben Island]]
[[th:เกาะร็อบเบิน]]
[[th:เกาะร็อบเบิน]]
[[yo:Erékùṣù Robben]]
[[zh:羅本島]]
[[zh:羅本島]]

Fersiwn yn ôl 18:40, 18 Medi 2010

Ynys Robben

Ynys ger arfordir De Affrica yw Ynys Robben. Saif heb fod ymhell o Dref y Penrhyn.

Bu'r ynys yn le i gadw carcharorion am bron 400 mlynedd. Fe'i defnyddiwyd gyntaf i'r pwrpas hwn gan y Vereenigde Oost-Indische Compagnie (VOC) o'r Iseldiroedd. Mae'r dyfroedd o'i hamgylch yn oer, ac mae siarcod yn niferus yma, sy'n ei gwneud yn anodd iawn i neb ddianc trwy nofio.

O 1836 hyd 1931, defnyddid Ynys Robben i gadw dioddeffwyr o'r gwahanglwyf. Yn 1959, daeth yn garchar i wrthwynebwyr llywodraeth De Affrica a threfn Apartheid. Y mwyaf adbabyddus o'r carcharorion a gadwyd yma oedd Nelson Mandela; bu arlwydd presennol De Affrica, Jacob Zuma, hefyd yn garcharor yma.

Rhyddhawyd y carcharorion gwleidyddol olaf yn 1991, ac yn 1996 symudwyd y carcharorion oherwydd troseddau anwleidyddol i garcharau eraill. Mae'r ynys yn awr yn gyrchfan i dwristiaid, gyda chyn-garcharorion yn gweithredu fel tywysyddion. Dynodwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.