Ynysdawe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Erthygl newydd using AWB
→‎top: Cywiro gwall ynganiad dwbwl using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
| gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth
| gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth

Fersiwn yn ôl 16:59, 9 Gorffennaf 2019

Ynysdawe
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6861°N 3.9069°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref bychan yn Sir Abertawe yw Ynysdawe ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (amrywiadau: Ynystawe, Ynys Dawe). Fe'i lleolir ar lan Afon Tawe i'r gogledd o ddinas Abertawe fymryn i'r de o Glydach. Rhed yr M4 heibio i'r de o'r pentref.

Gyferbyn ag Ynysdawe ceir Ynysforgan. Roedd gan y ddau le ran amlwg ym mywyd diwylliannol Morgannwg yn yr Oesoedd Canol am fod dau gartref y Tomasiaid yn gorwedd yno, un yn Ynysforgan a'r llall yn Ynysdawe. Yr enwocaf o'r teulu oedd Hopcyn ap Tomas (tua 1350 - 1400au), casglwr llawysgrifau, brudiwr a noddwr beirdd. Yn ôl traddodiad galwodd Owain Glyndŵr am ei gyngor fel brudiwr yn 1403 ac roedd Llyfr Coch Hergest a nifer o lawysgrifau eraill yn ei feddiant.

Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo Ysgol Gyfun Treforys. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a Llansamlet, ger llaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

Pobl enwog o Ynysdawe

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolen allanol