Dorset: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa|gwlad={{banergwlad|Lloegr}}}} |
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa, image|gwlad={{banergwlad|Lloegr}}}} |
||
[[Delwedd:EnglandDorset.svg|200px|bawd|Lleoliad '''Dorset''' yn Lloegr]] |
[[Delwedd:EnglandDorset.svg|200px|bawd|Lleoliad '''Dorset''' yn Lloegr]] |
Fersiwn yn ôl 20:59, 7 Gorffennaf 2019
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Prifddinas | Dorchester |
Poblogaeth | 776,780 |
Daearyddiaeth | |
Sir | De-orllewin Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 2,813.998 km² |
Yn ffinio gyda | Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Wiltshire, Hampshire |
Cyfesurynnau | 50.8333°N 2.3333°W |
Swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset (Saesneg: Dorset). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan:
- Canol Dorset a Gogledd Poole
- Christchurch
- De Dorset
- Dwyrain Bournemouth
- Gogledd Dorset
- Gorllewin Bournemouth
- Gorllewin Dorset
- Poole