Anjela Duval: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Anjela Duval - Bardd Llydaweg
 
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd Anjela Duval (1905- 1981), yn fardd Llydaweg a haeddodd Wobr Nobel am ei hysgrifennu. Mae ei cherddi yn datgelu cariad pendant tuag at natur, dicter yn erbyn dirywiad yr iaith Llydaweg, a'i synnwyr digrifwch.
Roedd Anjela Duval (1905- 1981), yn fardd Llydaweg a haeddodd Wobr Nobel am ei hysgrifennu. Mae ei cherddi yn datgelu cariad pendant tuag at natur, dicter yn erbyn dirywiad yr iaith Llydaweg, a'i synnwyr digrifwch.


Fe’i ganwyd Ebrill 3, 1905 yn y Vieux-Marché, ger [[Plouaret]] [[Aodou an Arvor]] a bu farw Tachwedd 7, 1981 yn [[Lannuon]], [[Aodou an Arvor]]
Fe’i ganwyd Ebrill 3, 1905 yn y Vieux-Marché, ger [[Plouared]] [[Aodou an Arvor]] a bu farw Tachwedd 7, 1981 yn [[Lannuon]], [[Aodou an Arvor]]





Fersiwn yn ôl 01:36, 4 Gorffennaf 2019

Anjela Duval - Bardd Llydaweg

Roedd Anjela Duval (1905- 1981), yn fardd Llydaweg a haeddodd Wobr Nobel am ei hysgrifennu. Mae ei cherddi yn datgelu cariad pendant tuag at natur, dicter yn erbyn dirywiad yr iaith Llydaweg, a'i synnwyr digrifwch.

Fe’i ganwyd Ebrill 3, 1905 yn y Vieux-Marché, ger Plouared Aodou an Arvor a bu farw Tachwedd 7, 1981 yn Lannuon, Aodou an Arvor


Roedd hi’n unig ferch i deulu oedd yn ffermio (bu farw y lleill yn ifanc), a chymerodd y fferm drosodd wedi farw ei rhieni (ei thad 1941, ei mham 1951). Collodd ei chwaer hŷn Maia (a fu farw yn ddeg oed, ond a erys mewn rhai cerddi) a’i brawd Charles wedi marw cyn iddi gael ei geni. Am ddegawdau oedd hi ar ei phen ei hun, ac wedi aros yn sengl am fod “an hini a garen. Ne gare ket pezh a garan” (Yr un a garaf. Nid yw e’n caru y pethau dw i’n ei charu) - am fod ei dyweddi, morwr a oedd yn canlyn a hi 1924-1926 wedi gofyn iddi adael Llydaw.

Roedd hi’n ffermwraig tlawd a syml oedd yn ysgrifennu ei cherddi ar ôl diwrnod caled o waith yn y caeau mewn llyfr nodiadau ysgol yn ei thyddyn bach yn nhreflan Traoñ an Dour. Roedd hi wedi dysgu darllen ei chatecism Llydaweg ers pan oedd hi'n ifanc iawn, ond ni ddechreuodd ysgrifennu tan y 1960au. Aeth i ysgol o wyth i ddeuddeg oed dan ofal lleianod ond, ar ôl iddi dioddef o glefyd yr esgyrn trodd at gyrsiau gohebiaeth i ferched ifanc o ardaloedd gwledig. Felly ymdriniodd â'r iaith Ffrangeg yn eithaf da. Daeth dan dylanwad cylchgronau Llydaweg fel Ar Bed Keltiek, cylchgrawn dan olygyddiaeth Roparz Hemon, un o brif lenorion y Llydaweg. Honnir hefyd bod y Tad Marsel Klerg, cyfarwyddwr y cylchgrawn Catholig Barr-heol, wedi'i hysgogi i gyhoeddi ei cherddi. Ysgrifennodd Gilles Servat, canwr Llydewig enwog a ddysgodd Llydaweg ganddi hi, gân amdani o'r enw Traoñ an Dour. Dywed ef ei fod yn deall Llydaweg ond heb ei siarad, atebodd Anjela Duval: "fel fy nghi ...". Daeth hi yn amlwg yn y byd Ffrengig ar sioe teledu André Voisin Les Conteurs yn 1971. Cyhoeddwyd ei gweithiau cyflawn ,Oberenn glok yn 2000 (bu farw y 1981). Gwerthwyd dros 1000 o gopïau ac fe'u hailgyhoeddwyd yn 2005 ar achlysur canmlwyddiant ei eni. Yn 2011 mae’r gymdeithas Anjela-Duval wedi casglu arian i godi cerflun gwenithfaen ohoni yn y Place du Vieux-Marché .


Gwaith yn Llydaweg

• ‘’Kan an douar’’, 1973 (Cân y Ddaear), Al Liamm, Brest

• ‘’Traoñ an Dour’’ 1982 (casgliad ar ôl marwolaeth), Al Liamm,

• ‘’Tad-kozh Roperz-Huon 1822-1902’’ (Tadcu Roperz Huon), 1982, 1992 Hor Yezh,

• ‘’Me, Anjela’’, 1986, Hor Yezh.

• ‘’Rouzig ar gwiñver’’ (Rousig y Wiwer)1989 An Here

• ‘’Stourm a ran war bep tachenn’’, (Ymgyrchaf ar bob maes) 1998 Mignoned Anjela

• ‘’Oberenn Glok’’, 2000, 2005

• Ei llyfrau nodiadau llawysgrifen, 1920-1968. Llyfrgell ddigidol Prifysgol Roazhon 2


Gwaith mewn cyfieithiad

• ‘’Du a Gwyn. Gwen ha Du’’ cerddi dwyieithog Dewi Morris Jones / Mikael Madeg Y Lolfa 1982 - Divroan/Alltudio; - Bac’han/Carcharu; - Dibabet ‘m eus/ Mi ddewisais i

• Gwefan deiriethog am Anjela Duval Ffrangeg, Saesneg a Llydaweg https://www.anjela.org/oberenn/?lang=en

• Ceir fersiynau cymraeg o rhai o’i cherddi yma https://www.anjela.org/oberenn/kembraeg/?lang=bz

• ‘’A Modern Breton Political Poet, Anjela Duval A Biography and an Anthology’’, gan Lenora Timm, Studies in French Literature Number 5, Edwin Mellen Press, , 1990. • ‘’Au fil des saisons - Gant ar mareoù-bloaz’’, (bilingue, version française de Pierre Jakez Hélias), Coop Breizh, 1995 • ‘’Quatre Poires’’, (bilingue, version française de Paol Keineg), éditions Mignoned Anjela, 2005.

Ceir rhai o'i gerddi enwocaf eu canu gan artistiaid Llydewig gyfoes fel ; ‘’An alc'hwez aour’’ gan Gwennyn yn ei albwm En tu all, ‘’Karantez vro’’ (Cariad at fro) wedi ei osod i gerddoriaeth gan Véronique Autret a gan Nolwenn Leroy yn ei halbwm dwyieithog ’’Bretonne’’. Mae nifer o'i gerddi yn albwm Yann Thiersen, ‘’EUSA’’, a ryddhawyd yn 2016.


Ffynonellau a Llyfryddiaeth

• Cyfweliad gyda Ronan Le Coadic ar gael ar y wefan llydaweg An Tour Tan • ‘’Anjela Duval’’ gan Roger Laouenan, Éditions Nature et Bretagne, 1982. • ‘’Bardd Gwleidyddol Llydaweg Modern, Anjela Duval A Biography and Anthology’’, Lenora Timm, Edwin Mellen Press, 1990. • Anjela Duval, hanes alar amhosibl, gan Marje Diouris, Emgleo Breizh, • ‘’Anjela Duval, Llenyddiaeth Llydaweg fel therapi’’ gan Guillaume Le Berre, , traethawd ymchwil Meistr mewn seicoleg glinigol a seicopatholeg, 2014.