Al-Fâtiha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ps:سورة الفاتحة |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: sl:Odprtje knjige (sura) |
||
Llinell 49: | Llinell 49: | ||
[[pt:Al-Fatiha]] |
[[pt:Al-Fatiha]] |
||
[[ru:Сура Аль-Фатиха]] |
[[ru:Сура Аль-Фатиха]] |
||
[[sl:Odprtje knjige (sura)]] |
|||
[[sq:Suretu El Fatiha]] |
[[sq:Suretu El Fatiha]] |
||
[[su:Al Fatihah]] |
[[su:Al Fatihah]] |
Fersiwn yn ôl 02:44, 13 Medi 2010
Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw sŵra agoriadol y Coran. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Coran" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r sŵras byrraf yn y Coran, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:
- Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
- Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
- Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
- Brenin Dydd y Farn Olaf.
- Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
- Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
- Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.