Lugo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hr:Lugo
B robot yn ychwanegu: uk:Луґо (Іспанія)
Llinell 50: Llinell 50:
[[sv:Lugo]]
[[sv:Lugo]]
[[tr:Lugo]]
[[tr:Lugo]]
[[uk:Луґо (Іспанія)]]
[[war:Lugo]]
[[war:Lugo]]

Fersiwn yn ôl 02:17, 11 Medi 2010

Delwedd:-Escudo Lugo.jpg
Arfbais Lugo

Dinas yng nghymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen yw Lugo. Mae'n bridddinas y dalaith o'r un enw.

Sefydlwyd y ddinas rhwng 26 CC a 12 CC gan Paulus Fabius Maximus, legad yr ymerawdwr Augustus, a roddodd yr enw Lucus Augusti iddi i anrhydeddu'r ymerawdwr. Nid oes sicrwydd ynghylch ystyr Lucus, ond gall ei fod yn dod o enw'r duw Celtaidd Lugus, (Lleu yn Gymraeg).

Saif y ddinas 465 uwch lefel y môr, ar dir uchel uwchben Afon Miño. Gyda phoblogaeth o 94,271, Lugo yw pedwerydd dinas Galicia o ran maint.

Adeiladwyd muriau Rhufeinig y ddinas yn niwedd y 3edd ganrif a dechrau'r 4edd ganrif. Yn y flwyddyn 2000, enwyd hwy yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Mur Rhufeinig Lugo