Atmosffer y Ddaear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: stq:Äid-Atmosphäre |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: mr:हवा |
||
Llinell 79: | Llinell 79: | ||
[[ml:ഭൗമാന്തരീക്ഷം]] |
[[ml:ഭൗമാന്തരീക്ഷം]] |
||
[[mn:Агаар мандал]] |
[[mn:Агаар мандал]] |
||
[[mr:हवा]] |
|||
[[ms:Atmosfera]] |
[[ms:Atmosfera]] |
||
[[nds-nl:Eerdatmosfeer]] |
[[nds-nl:Eerdatmosfeer]] |
Fersiwn yn ôl 01:29, 3 Medi 2010
Yr Amgylchedd | |
Tywydd Newid hinsawdd
Cynhesu byd eang |
Mantell o nwyon amddifynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd "atmosffêr") sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo.
Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nês at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15km isaf.
Tymheredd ac haenau'r atmosffer
Isod gweler rhestr o haenau'r atmosffer o wyneb y ddaear i fynny.
Troposffer
Cyfyngir tywydd y ddaear i'r haen gymharol denau sy'n ymestyn tua 8km uwchben y pegynnau a thua 15km uwch y gyhydedd. Mae'n cynnwys 85% o'r màs atmosfferig a'r anwedd dŵr i gyd bron. Mae tymheredd yr aer yn gostwng 1°C ymhob 165m o gynydd mewn uchder.
Stratosffer
Haen yr awyrgylch sy'n cynnwys 90% o'r osôn yw'r stratosffer. Mae'r haen denau o osôn yn y stratosffer yn amsugno golau uwchfioled gan gynhyrchu gwres yn y broses. Amrywia'r tymheredd o tua -75°C yn y tropoffin yn y trofannau i tua 10°C yn y stratoffin uwchben pegyn yr hemisffer haf. Y tropoffin sy'n gwanhanu rhan yma'r atmosffer oddi wrth y Troposffer.
Mesosffer
Haen uwchben y stratoffin ydy'r mesosffer. Mae'r tymheredd yn gostwng gyda chynnydd mewn uchder. Gall tymheredd y mesoffin gyrraedd -130°C sef rhan oeraf yr awyrgylch; mae hyn yn digwydd uwchben pegyn yr hemisffer yn yr haf (nid gaeaf) oherwydd cylchrediad yr awyr.
Thermosffer
Mae'r thermosffer wedi ei leoli uwch y mesosffer ac is yr ecsosffer. Mae ymbelydredd uwch fioled yn achosi ïoneiddiad yma. Mae'r thermosffer yn dechrau tua 90km uwch y ddaear ac yn ymestyn tua 600km.
Ecsosffer
Mae'r ecsosffer yn ymdoddi i'r cyfrwng rhyngblanedol ac mae'n dechrau tua 600km uwch wyneb y ddaear. Prif gynnwys yr aer tenau yw swm bychan o ocsigen atomig i fyny at 600km a chyfran gyfartal o hydrogen ac heliwm. Mae yna fwy o hydrogen nag o heliwm y tu hwnt i 2400km.