Gwaelod-y-garth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}}} |
|||
{{Gwybodlen lle}} |
|||
[[Delwedd:Gwaelod-y-garth from across the valley - geograph.org.uk - 87713.jpg|250px|de|bawd|Gwaelod-y-garth]] |
[[Delwedd:Gwaelod-y-garth from across the valley - geograph.org.uk - 87713.jpg|250px|de|bawd|Gwaelod-y-garth]] |
Fersiwn yn ôl 08:49, 19 Mehefin 2019
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.5472°N 3.2766°W |
Cod OS | ST214824 |
Cod post | CF15 |
Pentref ger Caerdydd yw Gwaelod-y-garth ( ynganiad ), ym mhlwyf Pentyrch. Mae wedi bod yn rhan o Ddinas Caerdydd ers 1996 a bu'n rhan o sir Morgannwg Ganol rhwng 1974 a 1996. Fe'i lleolir rhwng Caerdydd a Phontypridd.
Hanes
Yn yr 16g roedd Gwaelod-y-garth yn enwog am ei mwyngloddfeydd haearn. Agorwyd y gweithfeydd haearn cyntaf rhwng 1565 a 1625. Yn ystod y 19g ailagorwyd gweithfeydd yno gan gmwni Blackmoor Booker. Agorwyd Gwaith Glô Y Lan yn 1872 gan TW Booker a gyflogodd tua 300 o weithwyr. Ar 6 Rhagfyr 1875 , oherwydd diffyg awyru, bu ffrwydriad a laddodd 12 o fechgyn. Dyma'r ddamwain waethaf o'i bath yn Ne Cymru yn y flwyddyn honno, a'r waethaf yn ardal Caerdydd erioed. Yn 2015, 140 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd torch o flodau yn y fan, i nodi'r drychineb.[1]
Bu ymgyrchu i gadw'r gweithfeydd yn y 1990au.
Enwogion
- Y Parch R.G.Berry. Dramodydd
- Dr Mary Gillham - un o'r merched cyntaf i ymweld ag Antarctica, yn 1959.
- G. J. Williams - ysgolhaig Cymraeg.
- Jane Davidson - gweinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Catrin Dafydd - awdures, enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd 2005
Addysg
Lleolir Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth ar y briffordd yn y pentref, sef ysgol gynradd ddwyieithog gyda unedau Cymraeg a Saesneg arwahan. Derbyniai dros 70% o'r plant eu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Côr Godre'r Garth
Sefydlwyd Côr Godre'r Garth yn y pentref yn 1974. Er nad yw'r côr yn ymarfer yn y pentref mwyaf mae'n dal i arddel yr enw ac yn denu cantorio'n o'r ardal gyfagos.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 6 12 2015