Ecosystem: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
⚫ | |||
---- |
|||
⚫ | |||
[[Arthur Tansley]] oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term '''ecosystem''' mewn traethawd ym [[1935]], ond roedd [[Roy Clapham]] yn defnyddio'r un term ym [[1930]] i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd. |
[[Arthur Tansley]] oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term '''ecosystem''' mewn traethawd ym [[1935]], ond roedd [[Roy Clapham]] yn defnyddio'r un term ym [[1930]] i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd. |
Fersiwn yn ôl 18:21, 1 Medi 2010
Ecosystem yw cymdeithas o organebau mewn ecoleg sy'n cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd. Fel arfer, maent yn ffurfio cadwyni a gweoedd bwydydd.
Arthur Tansley oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term ecosystem mewn traethawd ym 1935, ond roedd Roy Clapham yn defnyddio'r un term ym 1930 i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.
Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau fel anialwch, mynyddoedd neu foroedd rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.
Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oed rhywogaethau yn marw.