Carn Ingli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Erthygl newydd using AWB
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}
{{Gwybodlen lle
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}


Bryn ym mynyddoedd [[y Preselau]] yn [[Sir Benfro]] yw '''Carn Ingli''' neu '''Mynydd Carningli'''. Saif ym [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro]], i'r de o [[Trefdraeth (Sir Benfro)|Trefdraeth]]. Ef yw'r pellaf i'r gogledd-orllewin o gopaon y Preselau.
Bryn ym mynyddoedd [[y Preselau]] yn [[Sir Benfro]] yw '''Carn Ingli''' neu '''Mynydd Carningli'''. Saif ym [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro]], i'r de o [[Trefdraeth (Sir Benfro)|Trefdraeth]]. Ef yw'r pellaf i'r gogledd-orllewin o gopaon y Preselau.

Fersiwn yn ôl 13:40, 18 Mehefin 2019

Carn Ingli
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr346 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9984°N 4.8245°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN0624337231 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd232 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaFoel Cwmcerwyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynydd Preseli Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Bryn ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Carn Ingli neu Mynydd Carningli. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r de o Trefdraeth. Ef yw'r pellaf i'r gogledd-orllewin o gopaon y Preselau.

Olion cynhanesyddol

Mae Carn Ingli yn nodedig am y nifer fawr o olion o Oes yr Efydd a geir ar ei lethrau, gyda gweddillion tali a charnedd o'r cyfnod yma. Ceir hefyd fryngaer o Oes yr Haearn ar y copa, gydag olion tai (gweler isod). Ymddengys fod Carn Ingli o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnodau hyn. Mae'r henebion hyn yn cynnwys sawl crug crwn o Oes yr Efydd.

Bryngaer

Bryngaer Carn Ingli

Mae muriau o gerrig wedi cael eu codi rhwng y creigiau ym mhen y bryn i ffurfio bryngaer. Mae'r muriau hyn yn ymestyn ar ffurf gylchog ymhell i lawr y llethrau i gyfeiriad y de-orllewin hefyd hefyd, gan amgau o'u mewn nifer o derasau.

Tybir gan archaeolegwyr y byddai'r gaer hon yn lloches dda i gymuned o ffermwyr lleol a ddibynnai ar gadw gwartheg; ffordd nodweddiadol Geltaidd o fyw.[1]

Hanes diweddarach

Yn ddiweddarach, dywedir i Sant Brynach fyw mewn ogof ar Garn Ingli, ac i angylion ymweld ag ef yno. Er nad oes sicrwydd am y safle, efallai mai yma yr ymladdwyd Brwydr Mynydd Carn yn 1081.

Cyfeiriadau

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).

Gweler hefyd