Asoka: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: el:Ασόκα
Llinell 33: Llinell 33:
[[da:Ashoka]]
[[da:Ashoka]]
[[de:Ashoka]]
[[de:Ashoka]]
[[el:Ασόκα]]
[[en:Ashoka]]
[[en:Ashoka]]
[[eo:Aŝoko]]
[[eo:Aŝoko]]

Fersiwn yn ôl 07:59, 31 Awst 2010

Ymerodraeth Asoka

Ymerawdwr Ymerodraeth y Maurya yn India o 268 CC hyd 231 CC oedd Asoka, hefyd Ashoka, a elwir yn Asoka Fawr. Roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn Afghanistan hyd Bengal ac i’r de cyn belled a Mysore.

Ystyr ei enw yn yr iaith Pali yw “rhydd o ofalon”. Roedd yn fab i’r ymerawdwr Bindusara a’i wraig Dhamma, ac yn wyr i .Chandragupta Maurya.Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad Bwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel.

Yn 250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys Bactria, Nepal, Myanmar, Gwlad Thai a Sri Lanka, ac efallai cyn belled ag Alexandria yn yr Aifft, Antioch ac Athen.

Daeth colofn o waith Asoka, a ddarganfuwyd yn Sarnath, yn arwyddlun cenedlaethol India, a cheir llun o ran ohoni ar faner India.

Chwedlau

Tyfodd cylch o chwedlau am Asoka a gafodd ddylanwad mawr yn y gwledydd Bwdhaidd. Ceir testunau cynnar o'r chwedlau hyn yn yr ieithoedd Pali a Sansgrit. Mae'n debyg fod rhai ohonynt wedi cael eu trosglwyddo ar lafar cyn hynny hefyd. Y testun mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yw'r Asokavadana (Sansgrit, yn golygu 'Buchedd Asoka') a ysgrifenwyd yn y 3edd ganrif OC yn India.

Llyfryddiaeth

  • John S. Strong (gol.), The Legend of King Asoka[:] A Study and Translation of the Asokavadana (Gwasg Prifysgol Princeton, 1983; argraffiad newydd gan Motilal Bansidarss, Delhi, 1989). ISBN 81-208-0616-6