Sylffwr deuocsid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: vi:Lưu huỳnh điôxít |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: vi:Lưu huỳnh điôxit |
||
Llinell 52: | Llinell 52: | ||
[[uk:Діоксид сірки]] |
[[uk:Діоксид сірки]] |
||
[[ur:Sulfur dioxide]] |
[[ur:Sulfur dioxide]] |
||
[[vi:Lưu huỳnh |
[[vi:Lưu huỳnh điôxit]] |
||
[[zh:二氧化硫]] |
[[zh:二氧化硫]] |
Fersiwn yn ôl 05:15, 28 Awst 2010
Nwy di-liw yw sylffwr deuocsid (SO2) ag iddo arogl treiddgar, taglyd. Prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yw llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pwer, purfeydd olew a gweithfeydd diwydiannol mawrion eraill a reolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Y sector tanwydd ag ynni yw’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o sylffwr deuocsid o weithgareddau a reolir gan yr Asiantaeth a’r sector hwn hefyd yw’r ffynhonnell genedlaethol fwyaf, gan gyfrannu 73% o’r cyfanswm cenedlaethol. Mae cerbydau modur, bwyleri a thanau mewn cartrefi hefyd yn rhyddhau sylffwr deuocsid.
Gall sylffwr deuocsid lidio’r llygaid a’r pibellau awyr, ac yn y crynoadau amgylcheddol uchaf medrant gynyddu symptomau’r rheini sy’n dioddef o asthma neu glefyd yr ysgyfaint. Gall sylffwr deuocsid hefyd arwain at effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant a chyfrannu at law asid. Gellir cludo sylffwr deuocsid dros bellter maith a gall hyd at draean o’r sylffwr a waddodir mewn rhai mannau yn y DU ddeillio o ffynonellau Ewropeaidd.