Slafonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio'r wybodlen Saesneg
BDim crynodeb golygu
Llinell 22: Llinell 22:
| footnotes = <sup>a</sup> Nid yw Slavonia yn rhanbarth swyddogol o [[Croatia]] ar hyn o bryd; mae'n rhanbarth hanesyddol.<ref name="Frucht 2004">{{cite book|last=Frucht|first=Richard C.|title=Eastern Europe: An Introduction to the People, Lands, and Culture|url=https://books.google.com/books?id=lVBB1a0rC70C&pg=PA413 |accessdate=15 August 2012|edition=illustrated|volume=1|year=2004|publisher=[[ABC-CLIO]]|isbn=1576078000|page=413}}</ref> Dyma'r ystyr gyfoes. Mae ffiniau hanesyddol Slavonia wedi amrywio o ganrif i ganrif.

----<sup>b</sup> Amcangyfrif yw'r rhif yma yn seiliedig ar diriogaeth pum sir dwyreiniol Croatia ([[Brod-Posavina]], [[Osijek-Baranja]], [[Požega-Slavonia]], [[Virovitica-Podravina]], [[Vukovar-Srijem]]).

----<sup>c</sup> Amcangyfrif yw'r rhif yma yn seiliedig ar diriogaeth pum sir dwyreiniol Croatia ([[Brod-Posavina]], [[Osijek-Baranja]], [[Požega-Slavonia]], [[Virovitica-Podravina]], [[Vukovar-Srijem]])..
----<sup>c</sup> Amcangyfrif yw'r rhif yma yn seiliedig ar diriogaeth pum sir dwyreiniol Croatia ([[Brod-Posavina]], [[Osijek-Baranja]], [[Požega-Slavonia]], [[Virovitica-Podravina]], [[Vukovar-Srijem]]).
}}
}}

Mae '''Slavonia''' neu '''Slafonia''' yn yr orgraff Gymraeg, ([[Croateg]]: ''Slavoija'') yn ranbarth ddaearyddol a hanesyddol yn nwyrain [[Croatia]]. Dyma'r 'fraich' uchaf yn y siap cryman sy'n nodweddu siap neilltuol tiriogaeth Croatia ac mae'n un o bedair talaith hanesyddol Croatia<ref name="Frucht 2004" /> (yr eraill yw talaith Croatia, [[Dalmatia]] ac [[Istria]]) sy'n cael ei chynrychioli gan darian gyda [[bela]] ar gefndir glas ar arfbais y wlad y [[Baner Croatia|faner Croatia]]. Mae'n dir amaethyddol ffrwythlon a choediog sydd wedi ei ffinio gan yr afonydd [[Afon Drava|Drafa]] i'r gogledd a'r [[Afon Sava|Safa]] i'r de a'r [[Afon Donaw|afon Donaw]] i'r dwyrain.

Fersiwn yn ôl 11:13, 16 Mehefin 2019

{{Infobox settlement | name = Slavonia | native_name = Slavonija | native_name_lang = hr | settlement_type = Un o ranbarthau hanysyddol Croatiaa | image_flag = Flag of the Kingdom of Slavonia.svg | flag_size = 115px | image_shield = HRV Slavonia COA.svg | shield_size = 90px | image_map = Slavonia.svg

| map_caption =

Mae Slavonia neu Slafonia yn yr orgraff Gymraeg, (Croateg: Slavoija) yn ranbarth ddaearyddol a hanesyddol yn nwyrain Croatia. Dyma'r 'fraich' uchaf yn y siap cryman sy'n nodweddu siap neilltuol tiriogaeth Croatia ac mae'n un o bedair talaith hanesyddol Croatia[1] (yr eraill yw talaith Croatia, Dalmatia ac Istria) sy'n cael ei chynrychioli gan darian gyda bela ar gefndir glas ar arfbais y wlad y faner Croatia. Mae'n dir amaethyddol ffrwythlon a choediog sydd wedi ei ffinio gan yr afonydd Drafa i'r gogledd a'r Safa i'r de a'r afon Donaw i'r dwyrain.

Dydy'r dalaith, er yn dalaith Croatieg hanesyddol, ddim yn adran lywodraethol o fewn Croatia gyfoes. Mae'n 12,556km sgwâr, sef dros hanner maint Cymru, ond â phoblogaeth o dim ond 806,192, sef llai na thrydydd poblogaeth Cymru.

Ni ddylid drysu Slavonia (neu Slafonia) y dalaith Croataidd, gyda Slofenia (Slovenija, Slovenia) y wladwriaeth annibynnol sy'n gorwedd i'r gorllewin o Groatia.

Hanes

Yr enw ar yr ardal ers amser maith yw Slafonia a'i thrigolion yn Slafoniaid. Hyd nes 1849, roedd Slafonia ynghyd â pherfeddwlad Croatia, yn ran o ymerodraeth neu wladwriaeth Hwngari gydag Osijek yn brifddinas arni.

O dan Augustus Cesar, Ymerawdwr yr Ymerodraeth Rufeinig, meddiannwyd tir gwastad Pannonia (Hwngari gyfoes a thiroedd oddi cwmpas) ac fe gelwid yn Pannonia Savia ar ôl yr afon Sava. Dywedir i'r Ymerawdwr, Probus, ddatblygu diwylliant y winwydden. Yn ddiweddarach, pasiodd y rhanbarth o dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd am gyfnod. Yn dilyn goresgyn y diriogaeth gan yr Afariaid ('Avars') a erlidwyd gan filwyr Siarlymaen cafwyd mewnfudiad o slafiaid o dalaith Dalmatia ar yr arfordir.

Yn y 9g, daeth yr ardal dan ddylanwad Cristnogaeth gan y seintiau Uniongred, Cyril a Methodius. Er i'r llwythi wrthsefyll y Bwlgariaid, syrthiodd dan reolaeth yr Hwngariaid yn 10g. Yn gynnar yn y 12g, ailymgeisiodd yr Ymerodraeth Fysantaidd gipio'r tir ond fe'i trechwyd yn 1127. Yn ôl pob tebyg bu iddynt ymgeisio eto yn 1162, ond methu am y tro olaf.

Rheolwyd Slafonia wedyn gan uchelwyr (Ban) lleol gan dywysogion tŷ brenhinol Hwngari. Yn 1471, ymosodwyd ar y tiriogaeth gan y Tyrciaid Otomanaidd (1471-1476) ac yna yn 1484 a 1524. Mae cytundeb a lofnodwyd ym 1562 cyflwynwyd Slafonia i'r Ymerodraeth Otomanaidd tra bod Croatia (y dalaith) yn feddiant i Awstria. Daeth y cyfnod yma o dan reolaeth y Twrciaid i ben yn 1699 gan y Cytundeb Karlowitz.[2]

Rhyfel Annibyniaeth Croatia

Gyda chwymp yr hen Iwgoslafia yn dilyn datganiad annibyniaeth Croatia yn 1991, datganodd y Serbiaid yn ardal Krajina ei gwladwriaeth annibynnol ei hunian, ac yna pocedi o ddwyrain a gorllewin talaith Slavonia gan gynnwys dinasoedd a threfi; Osijek , Vinkovci , Županja , Vukovar , Ilok, a Baranja . Yn y rhannau yma o'r Krajina (mae'r gair yn golygu 'Gororau' neu 'tir y ffin' mewn Serbo-Croatieg) roedd y boblogaeth yn gymysg ethnig ond gyda mwyafrif o ran niferoedd yn Groatiaid. Arweiniodd hyn at ryfel. Roedd y rhan orllewinnol yn cynnwys crib ddaearyddol Okučani a'r rhan fwyaf o fynyddoedd Psunj. Ym mis Mai 1995, dychwelwyd y rhan orllewinnol i reolaeth Croatia annibynnol yn dilyn llwyddiant "Cadgyrch Storm" ("Operation Storm"/Operacija Oluja yn Croatieg). Dychwelwyd gweddill rhan ddwyreiniol y dalaith i Groatia yn 1998.

Hynodrwydd

  • Glas Slavonije (Newyddion Slafonia) yw'r papur lleol i'r dalaith. Fe'o rheolir gan Branimir Glavaš, gwleidydd ceidwadol o Osijek.

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Frucht 2004
  2. Dezobry et Bachelet, Dictionnaire de biographie, T. 1, 1878, Nodyn:P..