Ffeministiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cerrig milltir pwysig yng Nghymru: ac un arall ...... |
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Emily davison killed 1913.jpg|bawd|Marwolaeth Emily Davidson, wedi iddi neidio o flaen ceffyl Brenin |
[[Delwedd:Emily davison killed 1913.jpg|bawd|Marwolaeth Emily Davidson, wedi iddi neidio o flaen ceffyl Brenin Siôr V yn 1913.]] |
||
Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i [[merch|ferched]] ydy '''ffeministiaeth'''. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o [[hawliau dynol]]. |
Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i [[merch|ferched]] ydy '''ffeministiaeth'''. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o [[hawliau dynol]]. |
||
Fersiwn yn ôl 16:36, 24 Awst 2010
Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i ferched ydy ffeministiaeth. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o hawliau dynol.
Dros y blynyddoedd defnyddiwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol ac ymfflamychol i newid yr ogwydd tuag at gydraddoldeb. Gall y gair "ffeminist" gyfeirio at berson o'r naill ryw neu'r llall, sy'n credu mewn daliadau ffeministiaeth.
Cerrig milltir pwysig yng Nghymru
- 1850 Cyhoeddi cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched (Y Gymraes)
- 1865 Y Cymry ym Mhatagonia yn rhoi'r hawl i ferched i bleidleisio.
- 1871 Rose Crawshay yn cael ei hethol ar gorff cyhoeddus (Bwrdd Ysgolion Merthyr Tydfil).
- 1872 Coleg hyfforddi athrawesau ifanc yn agor yn Abertawe
- 1883 Prifysgol Caerdydd yn caniatau derbyn merched fel myfyrwyr.
- 1885 Y ferch gyntaf i fod yn feddyg yng Nghymru: Frances Hoggan.
- 1886 Sefydlu "Cymdeithas i Hyrwyddo Addysg Merched Cymru"
- 1891 Byddin yr Iachawdwriaeth yn agor lloches i ferched - y cyntaf y tu allan i Lundain - yng Nghaerdydd.
- 1907 Sefydlu Mudiad Suffrage yn Llandudno
- 1912 Irene Steer o Gaerdydd yn ennill Medal Aur yng Ngemau Olympaidd Stockholm, am nofio 400 metr.
- 1915 cangen gyntaf o Sefydliad y Merched yn cael ei sefydlu, a hynny yn Llanfair Pwllgwyngyll.
- 1929 Megan Lloyd George yn cael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ar ran y Rhyddfrydwyr
- 1967 Sefydlu Merched y Wawr gan Zonia Bowen ac eraill.
- Gwersyll merched Greenham Common yn cael ei sefydlu gan 36 o ferched o Gaerdydd.