Gdańsk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: eu:Gdansk |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ie:Gdańsk |
||
Llinell 62: | Llinell 62: | ||
[[ia:Gdańsk]] |
[[ia:Gdańsk]] |
||
[[id:Gdańsk]] |
[[id:Gdańsk]] |
||
[[ie:Gdańsk]] |
|||
[[io:Gdańsk]] |
[[io:Gdańsk]] |
||
[[is:Gdańsk]] |
[[is:Gdańsk]] |
Fersiwn yn ôl 20:19, 20 Awst 2010
Mae Gdańsk (hefyd Almaeneg: Danzig, Casiwbeg: Gduńsk) yn un o ddinasoedd mwyaf Gwlad Pwyl. Mae wedi'i lleoli ar aber Afon Wisła a Môr Baltig. Porthladd pwysig i'r wlad a phrifddinas foifodiaeth (talaith) Pomorskie yw hi. Yn 2004 'roedd ynddi boblogaeth o 460,524. Rhan o Trójmiasto ("teirddinas") ydy Gdansk, gyda Gdynia a Sopot. Daw'r cofnod hanesyddol cynharaf o'r ddinas yn 997. Y pryd hynny aeth Sant Adalbert yno er mwyn troi'r preswylwyr i Gristionogaeth. Ymhen canrifoedd daeth Gdańsk yn ddinas mwyaf cyfoethog Gweriniaeth Pwyl. Gadwodd hi hunan lywodraeth eto. Yn y ddeunawfed ganrif enillwyd Gdańsk gan Brwsia. Wedyn Dinas Rydd oedd hi am gyfnod. Yr ail dro iddi fod yn Ddinas Rydd oedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Almaenwyr, Pwyliaid, Casiwbiaid ac Iddewon oedd yn byw yno, ac 'roedd heddwch yn eu mysg nes i Hitler ddod i rym yn Yr Almaen. Mynnodd e gysylltu Gdańsk gyda'r Almaen. Felly dechreuwyd Yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl y rhyfel daeth y ddinas i Wlad Pwyl. Yn yr 80au bu streiciau seiri llongau a gweithwyr eraill yno gyda Lech Wałęsa (Arlywydd Gweriniaeth Pwyl wedyn) yn eu harwain. Cred llawer mai'r digwyddiad hwn sbardunodd gwymp comiwnyddiaeth yn Ewrop.