Kanji: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
[[Delwedd:2230 Basic Kanji.svg|bawd|Map o 2,230 kanji mwyaf cyffredin Japan. Trefnir y map ar sail trefn strôc y kanji]] |
[[Delwedd:2230 Basic Kanji.svg|bawd|Map o 2,230 kanji mwyaf cyffredin Japan. Trefnir y map ar sail trefn strôc y kanji]] |
||
{{ |
{{eginyn iaith}} |
||
{{eginyn Japan}} |
{{eginyn Japan}} |
||
[[Categori:Systemau ysgrifennu]] |
[[Categori:Systemau ysgrifennu]] |
Fersiwn yn ôl 10:15, 20 Awst 2010
Kanji (Japaneg: 漢字) yw'r enw a roddir ar nodau Tseinaeg a gaiff ei ddefnyddio yn system ysgrifennu Japaneg, ynghŷd â'r hiragana a'r katakana, y system rifol Indo-Arabaidd ac yn llai aml yr Wyddor Ladin. Ystyr y gair kanji yw "Nodau Han" (nodau Tseinaeg). Daeth kanji i Japan yn wreiddiol oi Tsieina. Mae tua 2,000 i 3,000 o kanji yn cael defnydd cyson yn Japan heddiw, er fod tua 50,000 i 100,000 mewn gwirionedd.
Oherwydd i'r nodau gael eu datblygu o fewn Japaneg, gall un kanji ei ddefnyddio i ysgrifennu un neu fwy o wahanol eiriau. I'r darllennydd, mae gan kanji nifer o "ddarlleniadau" gwahanol. Mae penderfynu pa un i'w ddefnyddio yn dibynnu ar y cyd-destun, ystyr, defnydd mewn cyfansoddeiriau, neu hyd yn oed ei lleoliad mewn brawddeg. Mae gan rai kanji cyffredin ddeg neu fwy o ddarlleniadau gwahanol. Caiff y darlleniadau eu categoreiddio fel on'yomi (darlleniad Sino-Japaneg) neu kun'yomi (darlleniad Japaneg).