Philippe Pétain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lb:Philippe Pétain
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: yo:Philippe Pétain
Llinell 61: Llinell 61:
[[vi:Philippe Pétain]]
[[vi:Philippe Pétain]]
[[wa:Philippe Pétain]]
[[wa:Philippe Pétain]]
[[yo:Philippe Pétain]]
[[zh:菲利普·贝当]]
[[zh:菲利普·贝当]]

Fersiwn yn ôl 21:51, 9 Awst 2010

Philippe Pétain

Milwr Ffrengig oedd Henri Philippe Pétain (24 Ebrill 1856 - 23 Gorffennaf 1951). Ef oedd pennaeth Llywodraeth Vichy yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ymunodd a'r fyddin yn 1876 ac astudiodd yn Ysgol Filwrol Saint-Cyr. Daeth i sylw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan benododd y Cadlywydd Joseph Joffre ef i fod yn gyfrifol am fyddin Ffrainc ym Mrwydr Verdun. Llwyddodd y fyddin Ffrengig i wrthsefyll ymosodiad yr Almaenwyr, a daeth Pétain yn arwr cenedlaethol. Gwnaed ef yn Farsial bythefnos wedi diwedd y rhyfel.

Yn 1940, pan oedd yn 84 oed, cytunodd i weithredu fel pennaeth Llywodraeth Vichy, oedd yn gyfrifol am ran o Ffrainc fel gwladwriaeth hanner-annibynnol dan uwchlywodraeth yr Almaen. Ym mis Ebrill, 1945, wedi i Ffrainc gael ei rhyddhau, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth. Rhoddwyd ef ar ei brawf, ei gael yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth, ond oherwydd ei oedran a'i wasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, newidiodd Charles de Gaulle y ddedfryd i garchar am oes. Bu farw yn 95 oed yn y carchar ar yr Île d'Yeu.