Iestyn Tyne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9: Llinell 9:


==Bywyd cynnar ac addysg==
==Bywyd cynnar ac addysg==
Mae Iestyn yn fab ffarm o [[Boduan|Foduan]] ym [[Pen Llŷn|Mhen Llŷn]]. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf, [[Ysgol Uwchradd Botwnnog]]. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Nholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferfol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP (''Dwyn y Dail'', 2015) ac albwm (''Lle awn ni nesa'?'', 2017). Mae wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Mae'n perfformio'n rheolaidd fel rhan o fand [[Gwilym Bowen Rhys]].
Mae Iestyn yn fab ffarm o [[Boduan|Foduan]] ym [[Pen Llŷn|Mhen Llŷn]]. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf ac [[Ysgol Uwchradd Botwnnog]]. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP (''Dwyn y Dail'', 2015) ac albwm (''Lle awn ni nesa'?'', 2017). Mae wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Mae'n perfformio'n rheolaidd fel rhan o fand [[Gwilym Bowen Rhys]].


Wedi hynny aeth i astudio ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.<ref>{{dyf gwe|url=http://stafellgerdd.blogspot.com/2018/10/iestyn-tyne-cyfweliad.html|teitl=Iestyn Tyne (Cyfweliad)|cyhoeddwr=Blog Stafell Gerdd|dyddiad=1 Hydref 2018|dyddiadcyrchu=18 Ionawr 2019}}</ref>
Wedi hynny aeth i astudio ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.<ref>{{dyf gwe|url=http://stafellgerdd.blogspot.com/2018/10/iestyn-tyne-cyfweliad.html|teitl=Iestyn Tyne (Cyfweliad)|cyhoeddwr=Blog Stafell Gerdd|dyddiad=1 Hydref 2018|dyddiadcyrchu=18 Ionawr 2019}}</ref>

Fersiwn yn ôl 19:41, 30 Mai 2019

Iestyn Tyne
Ganwyd3 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bardd, llenor, a cherddor yw Iestyn Tyne (ganwyd 3 Gorffennaf 1997). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol Y Stamp, ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin Patrobas a Pendevig. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.

Bywyd cynnar ac addysg

Mae Iestyn yn fab ffarm o Foduan ym Mhen Llŷn. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf ac Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP (Dwyn y Dail, 2015) ac albwm (Lle awn ni nesa'?, 2017). Mae wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Mae'n perfformio'n rheolaidd fel rhan o fand Gwilym Bowen Rhys.

Wedi hynny aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.[1]

Gyrfa

Mae'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy yn rhan amser.

Barddoni

Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.[2] Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Addunedau, yn 2017;[3] a chyhoeddodd ei ail gyfrol, Ar adain, drwy Gyhoeddiadau'r Stamp yn 2018.[4]

Yn 2019, enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, gan ddod y cyntaf erioed i ennill coron a chadair yr Urdd.[5]

Y mae hefyd yn gyfrifol am y blog Casglu'r Cadeiriau sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.

Llyfryddiaeth

Dolenni allanol

Cyfeiriadau