Jendouba (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: el:Τζουντούμπα (Κυβερνείο) |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: ru:Джендуба (вилайет) |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
[[pt:Jendouba (província)]] |
[[pt:Jendouba (província)]] |
||
[[ro:Guvernoratul Jendouba, Tunisia]] |
[[ro:Guvernoratul Jendouba, Tunisia]] |
||
[[ru: |
[[ru:Джендуба (вилайет)]] |
||
[[tr:Cendube ili]] |
[[tr:Cendube ili]] |
||
[[ur:جندوبہ]] |
[[ur:جندوبہ]] |
Fersiwn yn ôl 07:08, 9 Awst 2010
Mae Jendouba (Arabeg: ولاية جندوبة) yn dalaith yn Tunisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag Algeria gyda rhimyn o arfordir (25km) ar lan Môr y Canoldir yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn afon Medjerda yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y Kroumirie. Jendouba yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).
Bu'r dalaith yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica a dan reolaeth brenhinoedd Numidia o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig Bulla Regia, yn agos i ddinas Jendouba, a Chemtou a Thubernica yn y gogledd.
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â Tunis i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw Ghardimao, y dref olaf cyn Algeria, a Bou Salem. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel Aïn Draham a thref glan môr Tabarka. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.
Taleithiau Tiwnisia | |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan |