William Butler Yeats: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 58: Llinell 58:
[[az:Uilyam Batler Yeyts]]
[[az:Uilyam Batler Yeyts]]
[[be:Уільям Батлер Ейтс]]
[[be:Уільям Батлер Ейтс]]
[[be-x-old:Ўільям Батлер Ейтс]]
[[bg:Уилям Бътлър Йейтс]]
[[bg:Уилям Бътлър Йейтс]]
[[bn:উইলিয়াম বাটলার ইয়েটস]]
[[bn:উইলিয়াম বাটলার ইয়েটস]]

Fersiwn yn ôl 22:34, 7 Awst 2010

William Butler Yeats, 1933
Cerflun Yeats yn Sligeach
Bedd Yeats yn Droim Chliabh

Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 1865 - 28 Ionawr 1939). Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20fed ganrif. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20fed ganrif. Dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth Nobel iddo yn 1923.

Bywgraffiad

Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.

Gwaith llenyddol

Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.

Llyfryddiaeth

  • The Wanderings of Oisin and Other Poems (1889)
  • The Celtic Twilight (1893)
  • The Lake Isle of Innisfree (1893)
  • The land of heart's desire (1894)
  • The secret rose (1897)
  • The Wind Among the Reeds (1899)
  • Cathleen ni Houlihan (1902)
  • Ideas of Good and Evil (1903)
  • In the Seven Woods (1904)
  • Discoveries (1907)
  • Deirdre (1907)
  • The green helmet (1910)
  • Responsibilities (1914)
  • The Wild Swans at Coole (1917)
  • Four Plays for Dancers (1921)
  • Four Years (1921)
  • The Cat and the Moon (1924)
  • A Vision (1925)
  • Autobiographies (1926)
  • The Tower (1928)
  • The Winding Stair and Other Poems (1933)
  • Collected Plays (1934)
Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol