Llanelli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ru:Лланелли
Llinell 125: Llinell 125:
==Gwleidyddiaeth==
==Gwleidyddiaeth==
[[Delwedd:NeuaddLlanelli.jpg|thumb|200px|right|Neuadd Tref Llanelli]]
[[Delwedd:NeuaddLlanelli.jpg|thumb|200px|right|Neuadd Tref Llanelli]]
Mae tref Llanelli o fewn [[Llanelli (etholaeth seneddol)|etholaeth seneddol Llanelli]] ac [[Llanelli (etholaeth Cynulliad)|etholaeth Cynulliad Llanelli]] Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Helen Mary Jones.
Mae tref Llanelli o fewn [[Llanelli (etholaeth seneddol)|etholaeth seneddol Llanelli]] ac [[Llanelli (etholaeth Cynulliad)|etholaeth Cynulliad Llanelli]] Cynrychiolydd San Steffan yw [[Nia Griffith]] ac un y Cynulliad yw [[Helen Mary Jones]].


Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel lleol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar lefel sirol.
Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel lleol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar lefel sirol.

Fersiwn yn ôl 23:59, 6 Awst 2010

Llanelli
Delwedd:Llanellimap.png
Ystadegau
Poblogaeth 44,475 (cyfrifiad 2001)
Gweinyddol
Sir Sir Gaerfyrddin
Gwlad Cymru
Cymunedau
Cyngor Lleol
Cyngor Tref Llanelli
Cyngor Gwledig Llanelli
Swyddfa Post a Ffôn
Tref Post LLANELLI
Ardal Post SA14/15
Côd Ffôn +44 -1554
Arall
Sir Seremonïol Dyfed
Heddlu Heddlu Dyfed-Powys
Gwleidyddiaeth
Etholaeth
Senedd y DU
Llanelli
Etholaeth
Cynulliad Cymru
Llanelli
Etholaeth
Ewropeaidd
Cymru
Aelod Seneddol y DU Nia Griffith
Aelod y Cynulliad Helen Mary Jones
Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.

Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a de orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw ddeuddeng milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Tyfodd y dref yn y 19eg ganrif o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynni gan nifer o drefi a phentrefi bach a adweinir fel Llanelli Rural. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Hanes

Arfais Tref Llanelli, yn cynnwys yr arwyddair Ymlaen Llanelli
Arfais Cyngor Trefol Llanelli

Diwydiant

Fe wnaeth Llanelli dyfu yn gyflym yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu plât tun. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel rhanbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Er i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe wnaeth y dref ddioddef o ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, fe welir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.

Yr Iaith Gymraeg

Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael gan Gyngor Gwledig Llanelli ddarparu papur treth Cymraeg trwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian y dreth. Roedd cyfeillion yn prynu'r celfi er mwyn eu rhoi yn ôl iddynt. Bu rhaid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan wnaeth y cynghorau dderbyn bod rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Atyniadau Lleol

Chwaraeon

Rygbi

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus.

Pêl-droed

Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Mae nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.

Golff

Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.

Chwaraeon Modur

Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.

Diwylliant

Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jubilee Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli.

Y Cyfryngau

Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.

Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.

Mae Llanelli yn gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar S4C.

Theatr a Sinema

Theatr Elli yw’r unig theatr yn y dref, sy’n rhan o ganolfan adloniant Llanelli. Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.

Trafnidiaeth

Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.

Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn cyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.

Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i'r Amwythig.

Gwleidyddiaeth

Neuadd Tref Llanelli

Mae tref Llanelli o fewn etholaeth seneddol Llanelli ac etholaeth Cynulliad Llanelli Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Helen Mary Jones.

Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel lleol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar lefel sirol.

Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.

Enwogion

Cysylltiadau allanol