Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Holder (sgwrs | cyfraniadau) B corr |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
== Dinasoedd Cymru == |
== Dinasoedd Cymru == |
||
{{Prif|Llywodraeth leol yng Nghymru}} |
{{Prif|Llywodraeth leol yng Nghymru}} |
||
Chwe |
Chwe dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â [[Statws dinas yn y Deyrnas Unedig|statws dinas]], mae gan [[cymuned (Cymru)|gymunedau]] [[Bangor]], [[Llanelwy]] a [[Tyddewi|Thyddewi]] statws dinas a gadarnheir gan [[breintlythyrau|freintlythyrau]]. |
||
* [[Abertawe]] |
* [[Abertawe]] |
Fersiwn yn ôl 16:32, 28 Mai 2019
Fel arfer, mae dinas yn anheddiad dynol mawr e.e. Paris, Caerdydd, ond gall hefyd fod o faint tref bychan e.e. Llanelwy. Yn gyffredinol mae gan ddinasoedd systemau helaeth ar gyfer tai, cludiant, glanweithdra, cyfleustodau, defnydd tir, a chyfathrebu. Mae eu dwysedd, ar y cyfan, yn hwyluso rhyngweithio rhwng pobl, sefydliadau'r llywodraeth a busnesau, sydd weithiau o fudd i wahanol bartïon yn y broses, ond gall y dwysedd hwn hefyd achosi problemau iechyd a chymdeithasol. Fel arfer, caiff dinas ei diffinio gan gorff megis llywodraeth neu eglwys, drwy siarter.
Yn hanesyddol, mae trigolion y ddinas wedi bod yn gyfran fach o'r ddynoliaeth, ond ar ôl dwy ganrif o drefoli dwys, mae tua hanner poblogaeth y byd bellach yn byw mewn dinasoedd, sy'n golygu canlyniadau difrifol ar gyfer cynaliadwyedd byd-eang. Mae dinasoedd heddiw fel arfer yn ffurfio craidd ardaloedd metropolitan mwy ac ardaloedd trefol — gan greu nifer o gymudwyr sy'n teithio tuag at ganol dinasoedd ar gyfer cyflogaeth, adloniant a golygu. Fodd bynnag, mewn byd lle mae globaleiddio'n dwysáu, mae pob dinas i raddau gwahanol hefyd yn gysylltiedig, yn fyd-eang, y tu hwnt i'r rhanbarthau hyn.[1]
Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn Hanes Gruffudd ap Cynan, yn y 12g.[2]
Dinasoedd Cymru
Chwe dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â statws dinas, mae gan gymunedau Bangor, Llanelwy a Thyddewi statws dinas a gadarnheir gan freintlythyrau.
Yn hanesyddol roedd Llanelwy yn ddinas, gan iddi fod yn ganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas yn Encyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.[3]
Gweler hefyd
- Dinas Efrog Newydd
- Dinasoedd y Deyrnas Unedig
- Castell Dinas, bryngaer a chastell yn ne Powys
- Dinas Powys (pentref), pentref a chymuned ym Mro Morgannwg
- Dinas, Sir Benfro, cymuned i'r dwyrain o Abergwaun
Cyfeiriadau
- ↑ James, Paul; with Magee, Liam; Scerri, Andy; Steger, Manfred B. (2015). Urban Sustainability in Theory and Practice: Circles of Sustainability. London: Routledge..
- ↑ geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 17 Mai 2019.
- ↑ Beckett, J V (2005). City Status in the British isles, 1830 - 2002. Aldershot: Ashgate Publishing, tud. 133 - 135. ISBN 0754650677