Transnistria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sw:Transnistria
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 88: Llinell 88:
[[vi:Transnistria]]
[[vi:Transnistria]]
[[war:Transnistria]]
[[war:Transnistria]]
[[xal:Днестр Кевсин Молдавмудин Таңһч]]
[[yi:טראנסניסטריע]]
[[yi:טראנסניסטריע]]
[[zh:德涅斯特河沿岸摩尔达维亚共和国]]
[[zh:德涅斯特河沿岸摩尔达维亚共和国]]

Fersiwn yn ôl 18:29, 3 Awst 2010

Lleoliad Transnistria (mewn melyn) a Moldofa (glas)

Gweriniaeth sydd wedi torri'n rhydd ond sy'n gorwedd o fewn ffiniau cydnabyddedig Moldofa yn nwyrain Ewrop yw Transnistria, a adnabyddir hefyd fel Trans-Dniester, Transdniestria a Pridnestrovie (enw llawn: Y Weriniaeth Pridnestrofaidd Moldofaidd). Er nad yw'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol gan unrhyw wlad na gwladwriaeth arall ac yn rhan de jure o Foldofa, yn de facto mae hi'n wlad annibynnol sy'n gweithredu fel gwladwriaeth. Mae'n weriniaeth arlywyddol, gyda llywodraeth, senedd, byddin, heddlu a chyfundrefn post. Mae'r awdurdodau wedi mabwysiadu cyfansoddiad, baner, anthem genedlaethol, ac arfbais swyddogol. Tiraspol yw prifddinas y wlad. Yr arlywydd presennol yw Igor Smirnov.

Gorwedd Transnistria mewn llain hirgul o dir rhwng Afon Dniester a Wcráin. Pan dorrodd yr Undeb Sofietaidd i fyny, cyhoeddodd Transnistria ei hannibyniaeth. Arweiniodd hyn at ryfel yn erbyn Moldofa a ddechreuodd ym mis Mawrth 1992 ac a ddaeth i ben gyda chadoediad yn 1992. Fel rhan o'r cytundeb, mae comisiwn tair rhan (Rwsia, Moldofa, Transnistria) yn arolygu trefniadau diogelwch yn yr ardal dadfilwrol, ar ddwy lan afon Dniester. Mae'r cadoediad yn dal mewn grym, ond erys statws gwleidyddol Transnistria heb ei datrys.

Mae sefyllfa Transnistria yn cael ei chymharu weithiau â'r sefyllfa mewn ardaloedd eraill lle mae anghydfod yn sgîl datgymalu'r USSR wedi'i "rhewi" fel petai, e.e. yn Nagorno-Karabakh, Abkhazia a De Ossetia.

Mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Rwsiaid ethnig, gyda lleiafrifoedd bychain o Iddewon, Wcreiniaid, a Moldofiaid. Ceir tair iaith swyddogol: Rwseg, Wcreineg a Moldofeg.

Cafwyd sawl enghraifft o wrth-Semitiaeth yn y wlad yn ddiweddar. Mae'r awdurdodau wedi cael eu cyhuddo gan yr Undeb Ewropeaidd ac eraill o anwybyddu masnach ryngwladol anghyfreithlon mewn arfau trwy'r wlad, ymysg pethau eraill.


Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.