William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
gwybodlen a llun
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen Person
[[Bardd]], [[emyn]]ydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd '''William Williams''' ([[1717]]-[[11 Ionawr]] [[1791]]), neu '''(Williams) Pantycelyn'''. Roedd yn frodor o blwyf [[Llanfair-ar-y-bryn]], [[Sir Gaerfyrddin]]. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger [[Pentre Tŷ-gwyn]].
| enw =William Williams Pantycelyn
| delwedd =WilliamWilliamsPantycelyn.jpg
| maint_delwedd =200px
| pennawd =Portread cyfoes o Williams Pantycelyn
| enw_genedigol =William Williams
| dyddiad_geni =1717
| man_geni =[[Llanfair-ar-y-bryn]], [[Sir Gaerfyrddin]]
| dyddiad_marw =11 Ionawr 1791
| man_marw =
| achos_marwolaeth =
| man_claddu =[[Llanfair-ar-y-bryn]]
| cartref =
| cenedligrwydd =[[Cymry|Cymro]]
| enwau_eraill =Pantycelyn
| enwog_am =emynau
| addysg =
| cyflogwr =
| galwedigaeth =arweinydd crefyddol, llenor
| gweithgar =
| teitl =
| cyflog =
| gwerth_net =
| taldra =
| pwysau =
| tymor =
| rhagflaenydd =
| olynydd =
| plaid =
| crefydd =
| priod =
| partner =
| plant =
| rhieni =
| perthnasau =
| llofnod =
| gwefan =
| nodiadau =
}}

[[Bardd]], [[emyn]]ydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd '''William Williams''' ([[1717]] - [[11 Ionawr]] [[1791]]), neu '''(Williams) Pantycelyn'''. Roedd yn frodor o blwyf [[Llanfair-ar-y-bryn]], [[Sir Gaerfyrddin]]. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger [[Pentre Tŷ-gwyn]].


==Ei fywyd==
==Ei fywyd==

Fersiwn yn ôl 23:09, 31 Gorffennaf 2010

William Williams, Pantycelyn
Galwedigaetharweinydd crefyddol, llenor

Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (1717 - 11 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.

Ei fywyd

Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.

Ei waith

Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.

Llyfryddiaeth

Llyfrau Pantycelyn

Astudiaethau

Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn Derec Llwyd Morgan (gol.), Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991)

Cysylltiadau allanol