Cilogram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bo:སྟོང་ཁེའུ།
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ht:Kilogram
Llinell 62: Llinell 62:
[[hi:किलोग्राम]]
[[hi:किलोग्राम]]
[[hr:Kilogram]]
[[hr:Kilogram]]
[[ht:Kilogram]]
[[hu:Kilogramm]]
[[hu:Kilogramm]]
[[ia:Kilogramma]]
[[ia:Kilogramma]]

Fersiwn yn ôl 09:48, 30 Gorffennaf 2010

Delwedd o'r International Prototype Kilogram (“IPK”), sef y cilogram y mae pob cilogram drwy'r byd wedi'i sylfaenu arno. Fe welir pren mesur gyda modfeddi wrth ei ochr. Fe'i wnaed o blatinwm-iridiwn a chaiff ei storio yn folts y BIPM yn Sèvres, Ffrainc.

Mae Cilogram (neu Kilogram) yn Uned Safonol Ryngwladol o Unedau (International System of Units, (SI, o'r Ffrangeg, Le Système International d’Unités) ac mae'n gydradd â'r Prototeip Rhyngwlad - gweler y llun ar y dde. Mae pob cilogram wedi'i safoni ar yr un yma a gedwir ym Mharis.

Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladol kg, gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.

Mae'r uned hon (sef y cilogram) yn 2.20462262 pwys (yr hen bwysau 'Imperial'). Uned arferol dwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).

Lle

ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
m yw màs cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogramau)
C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn metrau ciwb)

Hanes

Ar 26 Mawrth 1791 danfonodd Ffrancwr o'r enw Charles Maurice de Talleyrand-Périgord lythyr at Lywodraeth Ffrainc yn galw am safoni'r grefft o fesur. Pedwar diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn, sefydlodd y llywodraeth Academi a rhannwyd y gwaith gan greu unedau metrig sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.

Ar 7 Ebrill 1795 cyhoeddwyd yn Ffrainc fod y gram yn hafal i "bwysau absoliwt cyfaint y dŵr sydd mewn ciwb 1cm wrth 1cm (un centimetr ciwb), a hynny ar dymheredd rhew.[1] Ond roedd diwydiant yn gweiddi am fesurau mwy na'r centimetr a'r gram. Sylweddolwyd hefyd fod pwysau rhew yn amrywiol ac yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac felly aethpwyd ati i greu prototeip mwy ymarferol na dŵr, a fyddai 1000 gwaith yn fwy na'r gram, sef y "kilogram". Yn yr un flwyddyn, aethpwyd ymlaen â'r gwaith o ddiffinio "litr".

Cyfeiriadau