Philip Jones Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ro:Philip Jones Griffiths; cosmetic changes |
Add image from http://tools.wikimedia.de/~emijrp/imagesforbio/ |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Philip Jones Griffiths in Bali, Fall, 2000AD.jpg|thumb|right|Philip Jones Griffiths]] |
|||
Ffotograffydd ([[18 Chwefror]] [[1936]] - [[18 Mawrth]] [[2008]]) a aned yn [[Rhuddlan]] oedd '''Philip Jones Griffiths'''. |
Ffotograffydd ([[18 Chwefror]] [[1936]] - [[18 Mawrth]] [[2008]]) a aned yn [[Rhuddlan]] oedd '''Philip Jones Griffiths'''. |
||
Fersiwn yn ôl 01:36, 27 Gorffennaf 2010
Ffotograffydd (18 Chwefror 1936 - 18 Mawrth 2008) a aned yn Rhuddlan oedd Philip Jones Griffiths.
Gyrfa
Astudiodd i fod yn fferyllydd yn Lerpwl, a thra'n gweithio yn Llundain, bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y Guardian. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i Algeria yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad ar Ffrainc. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn Fietnam rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau Magnum.
Tra yn Fietnam fe dynnodd luniau yn cofnodi'r rhyfel yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o Jackie Kennedy (gwraig John F. Kennedy) ar wyliau yn Cambodia gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hun ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw Vietnam inc. yn 1971. Yn ogystal a bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran blaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn 2001 gyda rhagair gan Noam Chomsky.[1]
Yn 1973 fe fu'n cofnodi rhyfel Yom Kippur a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i Efrog Newydd yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i neb fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.
Yn ystod ei yrfa mae aseiniadau Griffiths wedi mynd ag ef i 120 o wledydd. Bu'n gweithio a thynnu lluniau ar gyfer storiau gwahanol fel Bwdhaeth yng Nghambodia, sychder yn India, tlodi yn Texas, ail-wyrddu Fietnam, ac ôl-effeithiau Rhyfel y Gwlff yn Kuwait.
Ymysg ei lyfrau eraill mae Dark Odyssey, ble mae Griffiths yn ystyried y berthynas anghyfartal rhwng technoleg a'r ddynoliaeth, ac hefyd y llyfr Agent Orange, sy'n olrhain sgîl-effeithiau hirhoedlog defnydd lluoedd America o'r cemegyn Agent Orange ar Fietnam.
Arddangosfeydd
- 2006 Fifty Years on the Frontline - Southeast Museum of Photography, Daytona, UDA
- 2005 Fifty Years of Frontline - Denise Bibro Fine Art, Efrog Newydd, UDA
- 2004 Agent Orange - Side Photographic Gallery, Newcastle upon Tyne
- 1996 Dark Odyssey - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
- 1992 Retrospective – Madrid, Sbaen
- 1990 Retrospective - Photofest, Houston, Texas, UDA
- 1985 Magnum Concert - Musee d’Art et Histoire, Fribourg, Y Swistir
- 1985 Magnum Photographs: 1932-1967 - Pace/MacGill Gallery, Efrog Newydd, UDA
Llyfrau
- 2005 Vietnam at Peace, Trolley, DU
- 2003 Agent Orange-Collateral Damage in Vietnam, Trolley, DU
- 1996 Dark Odyssey, Aperture, UDA
- 1992 Philip Jones Griffiths: una vision retrospectiva (1952-1988), Consorcio para la Organizacion de Madrid Capital Europea de la Cultura, Sbaen
- 1979 Bangkok, Amsterdam Time-Life, Yr Iseldiroedd
- 1971/01 Vietnam Inc., Collier, UDA; Phaidon, DU