Brech wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: bn:গুটিবসন্ত
B robot yn ychwanegu: lv:Bakas
Llinell 55: Llinell 55:
[[la:Variola]]
[[la:Variola]]
[[lt:Raupai]]
[[lt:Raupai]]
[[lv:Bakas]]
[[ml:വസൂരി]]
[[ml:വസൂരി]]
[[mr:कांजिण्या]]
[[mr:कांजिण्या]]

Fersiwn yn ôl 08:23, 26 Gorffennaf 2010

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Haint a achosir gan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen (Saesneg: Smallpox). Variola major sy'n achosi'r ffurf fwyaf difrifol ar yr afiechyd, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.

Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18fed ganrif, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd yn effeithio yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant oedd yn cael y frech yn marw. Erbyn yr 20fed ganrif roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn 1979, cyhoeddodd yr WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.

America

Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewtopeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Aztec. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yn nghanol y 18fed ganrif, trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau