Taith y Pererin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: he:מסעות ההלך |
iw |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
[[pl:Wędrówka Pielgrzyma]] |
[[pl:Wędrówka Pielgrzyma]] |
||
[[pt:O Peregrino]] |
[[pt:O Peregrino]] |
||
[[ru:Путешествие Пилигрима в Небесную Страну]] |
|||
[[simple:The Pilgrim's Progress]] |
[[simple:The Pilgrim's Progress]] |
||
[[sv:Kristens resa]] |
[[sv:Kristens resa]] |
Fersiwn yn ôl 09:30, 21 Gorffennaf 2010
Llyfr gan John Bunyan a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg yn Chwefror 1678 fel The Pilgrim's Progress from This World to That Which Is to Come yw Taith y Pererin. Mae wedi ei gyfeithu i dros gant o ieithoedd, a bu'r fersiwn Gymraeg yn eithriadol o boblogaidd am gyfnod hir. Gyda'r Beibl a Canwyll y Cymry gan Y Ficer Prichard, roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.
Dechreuodd Bunyan ysgrifennu'r llyfr pan oedd yng ngharchar Bedford am gynnal cyfarfodydd crefyddol heb fod dan awdurdod Eglwys Loegr. Ymddangosodd argraffiad wedi ei ehanu yn 1679, a'r Ail Ran yn 1684. Mae'r stori yn alegori sy'n dilyn helyntion Cristion wrth iddo ffoi o'r Ddinas Ddihenydd a theithio tua'r ddinas nefol. Yn yr ail ran mae gwraig Cristion, Christiana a'u plant yn dilyn yr un daith.
Ymddangosodd yr argraffiad Cymraeg cyntaf yn 1688, wedi ei gyhoeddi gan Stephen Hughes fel Taith neu Siwrnai y Pererin, wedi ei gyfeithu ganddo ef ei hun a thri arall. Cyhoeddodd Thomas Jones yr Almanaciwr argraffiad arall yn 1699, a chyhoeddwyd llawer o argraffiadau Cymraeg yn y 18fed ganrif ac yn enwedig yn y 19eg ganrif, yn cynnwys addasiadau i blant. Yn yr 20fed ganrif cyhoeddwyd cyfeithiadau gan E. Tegla Davies a Trebor Lloyd Evans.