Y Forwyn Fair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JhsBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: eml:Maria (mèr ad Gesü)
B robot yn ychwanegu: io:Madono
Llinell 48: Llinell 48:
[[ia:Maria (matre de Jesus)]]
[[ia:Maria (matre de Jesus)]]
[[id:Maria]]
[[id:Maria]]
[[io:Madono]]
[[is:María mey]]
[[is:María mey]]
[[it:Maria (madre di Gesù)]]
[[it:Maria (madre di Gesù)]]

Fersiwn yn ôl 09:36, 17 Gorffennaf 2010

Yr angel Gabriel yn cyhoeddi i Mair y bydd hi'n beichiogi ac yn esgor ar yr Iesu (llun gan Fra Angelico)

Yn ôl y Testament Newydd, roedd Mair (a elwir hefyd yn Santes Fair neu'r Forwyn Fair) yn fam i Iesu Grist. Roedd hi'n briod â Sant Ioseff ac, yn ôl ffynonellau llai derbynnol, yn ferch i'r saint Joachim ac Ann. Mae efengyl Luc yn adrodd sut y dysgodd Mair, a oedd yn forwyn (gwyryf) ar y pryd, gan yr archangel Gabriel, negesydd oddi wrth Dduw, ei bod hi'n mynd i roi genedigaeth wyrthiol i Iesu Grist, Mab Duw.

Anrhydeddir y Santes Fair yn bennaf yn yr Eglwys Gatholig, ac o fewn yr eglwys honno credir iddi gael ei llenwi â gras Duw ers ei genedigaeth (nid yw'r athrawiaeth hon yn golygu, fel mae rhai wedi ei dehongli, bod Mair hithau wedi cael ei geni yn wyryfol). Athrawiaeth ganolog arall i Gristnogaeth Catholig yw'r Dyrchafiad, hynny yw, bod corff Mair wedi codi i'r nefoedd wedi ei marwolaeth. Anrhydeddir hi hefyd o fewn Islam; ceir mwy am fywyd Mair yn y Coran nac yn y Testament Newydd.

Yn symbolaidd mae'r Forwyn Fair yn cael ei chyfelybu i Arch y Cyfamod yn y traddodiad liturgiaidd Cristnogol, am ei fod wedi dwyn Crist i'r byd i roi Cyfamod newydd.

Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn ger Effesus (de-orllewin Twrci) a bu farw yno. Creda Catholigion bod ei thŷ yn Nasareth wedi hedfan oddi ar ei safle wreiddiol i dref Loreto yn yr Eidal ym 1294. Dyma'r unig safle sy'n gysylltiedig â bywyd Mair drwy Ewrop ac felly y mae yn safle boblogaidd am bererindodau.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol