Cywydd deuair hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>''Anghenion y Gynghanedd'', Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.</ref>
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>''Anghenion y Gynghanedd'', Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.</ref>


O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn [[Glêr]]. Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[torr mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.
O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn [[Glêr]]. Ystyrir [[Dafydd ap Gwilym]], bardd a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ffigwr canolog a phwysig yn natblygiad y cywydd ac yn gyfrifol am ddyrchafu ei statws.<ref>''Gwaith Dafydd ap Gwilym'', Thomas Parry, Gwasg Prifysgol Cymru, Ail argraffiad, 1963.</ref>
Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[torr mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 16:19, 16 Gorffennaf 2010

Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Ffurfir y cywydd deuair hirion o gwpledi sy'n odli, saith sillaf i bob llinell, a phob llinell mewn cynghanedd. Dyma'r ffurf fwyaf cyffredin o lawer ar y cywydd. Rhaid i un brifodl fod yn acennog a'r llall yn ddiacen, er nad oes ots ym mha drefn y gwneir hynny.

Dyma enghraifft gan Waldo Williams:

Pa eisiau dim hapusach,
Na byd yr aderyn bach?
Byd o hedfan a chanu
A hwylio toc i gael tŷ.

Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.[1]

O'r traethodl y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn Glêr. Ystyrir Dafydd ap Gwilym, bardd a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ffigwr canolog a phwysig yn natblygiad y cywydd ac yn gyfrifol am ddyrchafu ei statws.[2]

Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod torr mesur ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir cynghanedd lusg yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.

Cyfeiriadau

  1. Anghenion y Gynghanedd, Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.
  2. Gwaith Dafydd ap Gwilym, Thomas Parry, Gwasg Prifysgol Cymru, Ail argraffiad, 1963.

Gweler hefyd


Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.