Cynghanedd Sain Alun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
::Un tro yn llawn gobaith?" |
::Un tro yn llawn gobaith?" |
||
==Llyfryddiaeth== |
|||
*[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925) |
|||
*[[Alan Llwyd]], ''Anghenion y Gynghanedd'' (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007) |
|||
*[[Myrddin ap Dafydd]], ''Clywed Cynghanedd'' (Gwasg Carreg Gwalch, 1994) |
|||
Fersiwn yn ôl 19:30, 15 Gorffennaf 2010
Math o gynghanedd a grewyd gan Alun y Cilie yw Cynghanedd Sain Alun. Nid yw'n cael ei defnyddio'n aml iawn mewn barddoniaeth, ond gellir dweud ei bod yn cynyddu mewn poblogrwydd. Fe'i derbynnir bron yn ddi-wahân fel cynghanedd ddilys a chywir gan ei bod yn gynghanedd draddodiadol, ond bod ei safle yn yr englyn wedi'i addasu ychydig.
Sain "bengoll" yw enw arall arni; fe'i defnyddir yn y gair cyrch mewn paladr englyn, gyda'r orodl a'r rhagodl yn y gair cyrch.
(llinell gyntaf englyn) - rhin y gwin
Yn y gwynt (yna'r odl)
(yna dwy linell ola'r englyn).
Fe welir uchod fod 'rhin' a 'gwin' yn odli â'i gilydd, yna'r 'g' yn 'gwin' yn cael ei hateb gyda 'g' yn 'gwynt'.
Ceir hefyd ddefnydd o'r gynghanedd hon ym mhaladr englyn o waith T. Arfon Williams:
"Mae'r ifainc mawr eu hafiaith - aeth Gatraeth
- Un tro yn llawn gobaith?"
Llyfryddiaeth
- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
- Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)