Gemau Olympaidd yr Haf 1908: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 123: Llinell 123:
[[ar:ألعاب أولمبية صيفية 1908]]
[[ar:ألعاب أولمبية صيفية 1908]]
[[az:1908 Yay Olimpiya Oyunları]]
[[az:1908 Yay Olimpiya Oyunları]]
[[be-x-old:Летнія Алімпійскія гульні 1908]]
[[be-x-old:Летнія Алімпійскія гульні 1908 году]]
[[bg:Летни олимпийски игри 1908]]
[[bg:Летни олимпийски игри 1908]]
[[bn:১৯০৮ গ্রীষ্মকালীন অলিম্পিক্‌স]]
[[bn:১৯০৮ গ্রীষ্মকালীন অলিম্পিক্‌স]]

Fersiwn yn ôl 03:33, 15 Gorffennaf 2010

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1908, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad IV, yn Llundain yn 1908. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed Gemau Olympaidd Modern. Ond fe is-raddiwyd Gemau Olympaidd 1906 ers hynny gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd Baron Pierre de Coubertin.

Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd Vesuvius ar y 7fed o Ebrill 1906, gan ddinistrio dinas Naples ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Naples, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn White City wrth ochr yr Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd. Berlin a Milan oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau.

Chwaraeon

Cystadlwyd 22 o chwaraeon, yn cynyrchioli 24 o ddisgyblaehau chwaraeon, yng Ngemau 1908. Ystyriwyd nofio, plymio a polo dŵr fel tair disgyblaeth o'r un chwaraeon. Roedd tug-of-war yn ran o athletau a rhestrwyd dau ffurf o gôd pêl-droed cymdeithas a Rygbi'r Undeb gyda'i gilydd.

Cenhedloedd a Gyfranogodd

Y cyfranogwyr

Roedd athletwyr yn cynyrchioli 22 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd. Gwnaeth yr Ariannin, Ffindir, Twrci, a Seland Newydd eu ymddangosiad cyntaf yn y gemau fel tîm Awstralasia.

Cyfanswm Medalau

Dyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Prydain Fawr Prydain Fawr (cenedl gwesteiwyr) 56 51 39 146
2 Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America 23 12 12 47
3 Baner Sweden Sweden 8 6 11 25
4 Baner Ffrainc Ffrainc 5 5 9 19
5 Baner Yr Almaen Yr Almaen 3 5 5 13
6 Baner Hwngari Hwngari 3 4 2 9
7 Baner Canada Canada 3 3 10 16
8 Baner Norwy Norwy 2 3 3 8
9 Baner Yr Eidal Yr Eidal 2 2 0 4
10 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 1 5 2 8

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Australasia included Australia and New Zealand.
  2. The Grand Duchy of Finland was part of the Russian Empire at the time, but was treated as a separate nation.
  3. The Netherlands was typically referred to in early Olympic competition as "Holland" though the entire nation of the Netherlands was the entity in question rather than the region of the country formally named Holland; the IOC currently refers to all entries from the nation as from "Netherlands".


Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol