Brad Pitt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Add image from http://tools.wikimedia.de/~emijrp/imagesforbio/
B Add image from http://tools.wikimedia.de/~emijrp/imagesforbio/
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Brad Pitt Palm Film Festival.jpg|thumb|right|Brad Pitt]]
[[Delwedd:BradPittBAR08.jpg|thumb|right|Brad Pitt]]
[[Delwedd:BradPittBAR08.jpg|thumb|right|Brad Pitt]]
{{Gwybodlen Person
{{Gwybodlen Person

Fersiwn yn ôl 14:26, 13 Gorffennaf 2010

Brad Pitt
Brad Pitt
Brad Pitt
GalwedigaethActor, Cynhyrchydd

Actor a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un Gwobrau Golden Globe ac un Gwobrau'r Academi.

Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Seven a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi anturus Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008).

Wedi iddo gael perthynas enwog gyda'r actores Gwyneth Paltrow, a phriodas â Jennifer Aniston, mae Pitt bellach yn byw gyda'r actores Angelina Jolie. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd. Maent wedi mabwysiadu tri o blant, Maddox, Pax a Zahara, yn ogystal â thri o'u plant biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Ers ei berthynas gyda Jolie, mae Pitt wedi ymroi'n fwyfwy i faterion cymdeithasol, yn ei wlad ei hun yn ogystal â thramor.

Gwragedd

Plant

Ffilmiau

  • Dark Side Of The Sun (1988)
  • Across the Tracks (1991)
  • Thelma & Louise (1991)
  • A River Runs Through It (1992)
  • Interview With The Vampire (1994)
  • Legends of the Fall (1994)
  • Se7en (1995)
  • Twelve Monkeys (1997)
  • Seven Years in Tibet (1997)
  • Meet Joe Black (1998)
  • Fight Club (1999)
  • Ocean's Eleven (2001)
  • Troy (2004)
  • Mr. & Mrs. Smith (2005)