Eduardo Galeano: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Add image from http://tools.wikimedia.de/~emijrp/imagesforbio/
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Eduardo Galeano en 1984.jpg|thumb|right|Eduardo Galeano]]
Newyddiadurwr, awdur a nofelydd [[Uruguayaid|Uruguayaidd]] yw '''Eduardo Hughes Galeano''' (ganed 3 Medi, 1940). Ei waith mwyaf adnabyddiedig yw ''Memoria del fuego'' (Atgofion Tân, 1986) a ''Las venas abiertas de América Latina'' (Gwythiennau Agored America Ladin 1971) sydd wedi eu cyfieithu i dros ugain o ieithoedd eraill ac sy'n trosi ffiniau ''genres''; drwy gyfuno ffuglen, newyddiaduraeth, dadansoddi gwleidyddol, a hanes.
Newyddiadurwr, awdur a nofelydd [[Uruguayaid|Uruguayaidd]] yw '''Eduardo Hughes Galeano''' (ganed 3 Medi, 1940). Ei waith mwyaf adnabyddiedig yw ''Memoria del fuego'' (Atgofion Tân, 1986) a ''Las venas abiertas de América Latina'' (Gwythiennau Agored America Ladin 1971) sydd wedi eu cyfieithu i dros ugain o ieithoedd eraill ac sy'n trosi ffiniau ''genres''; drwy gyfuno ffuglen, newyddiaduraeth, dadansoddi gwleidyddol, a hanes.



Fersiwn yn ôl 02:25, 13 Gorffennaf 2010

Eduardo Galeano

Newyddiadurwr, awdur a nofelydd Uruguayaidd yw Eduardo Hughes Galeano (ganed 3 Medi, 1940). Ei waith mwyaf adnabyddiedig yw Memoria del fuego (Atgofion Tân, 1986) a Las venas abiertas de América Latina (Gwythiennau Agored America Ladin 1971) sydd wedi eu cyfieithu i dros ugain o ieithoedd eraill ac sy'n trosi ffiniau genres; drwy gyfuno ffuglen, newyddiaduraeth, dadansoddi gwleidyddol, a hanes.

Bywyd

Ganed Galeano yn Montevideo, Uruguay i deulu dosbarth canol Catholig o dras Ewropeaidd. Fel cynifer o fechgyn ifanc America Ladin, breuddwydiodd am fod yn chwaraewr pêl-droed ac fe adlewyrchid hyn yn rhai o'i waith, fel El Fútbol A Sol Y Sombra (Pêl-droed Mewn Haul a Chysgod). Yn ei arddegau, fel weithiodd mewn sawl swydd — gweithiwr ffatri, casglwr biliau, peintiwr arwyddion, negesydd, teipiwr, a gweithiwr banc. Yn 14 mlwydd oed, gwerthodd Galeano ei gartŵn gwleidyddol cyntaf i wythnosolyn y Blaid Sosialaidd, El Sol. Priododd am y tro cyntaf yn 1959.

Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn y 1960au cynnar fel golygydd Marcha, cofnodolyn wythnosol dylanwadol gyda chyfranwyr megis Mario Vargas Llosa, Mario Benedetti, Manuel Maldonado Denis a Roberto Fernández Retamar. Am ddwy flynedd fe weithiodd fel golygydd y papur dyddiol Época a gweithiodd fel prif olygydd University Press. Yn 1962, yn dilyn ysgariad, fe briododd Graciela Berro.

Yn 1973, bu coup milwrol Uruguay; carcharwyd Galeano ac yna gorfodwyd ef i ddianc. Fe waharddwyd ei lyfr Las venas abiertas de América Latina yn y llywodraeth milwrol asgell-dde, ond nid yn Uruguay yn unig, ond hefyd yn Chile ac yn Yr Arnannin. Yn 1976 fe briododd ma y trydydd tro gyda Helena Villagra, ond yn ystod yr un flwyddyn, cipiodd Videl rym yn Yr Ariannin yn dilyn coup gwaedlyd ac fe ychwanegwyd enw Galeano at restr y rhai a'u condemniwyd gan swadiau lladd. Bu rhaid iddo ffoi unwaith eto, y tro hwn i Sbaen, ble ysgrifenodd Memoria del fuego.

Dychwlodd i fyw yn Montevideo yn 1985, ble mae'n dal i fyw hydheddiw. Yn 2007, cafodd lawdriniaeth llwyddianus i drin canser yr ysgyfaint.

Ar Ebrill 17, 2009, yn ystod sesiwn agoriadol pumed Uwcghynhadledd yr Amerig, yn Port of Spain, Trinidad a Tobago, fe gyflwynodd Arlywydd Venezuelan President Hugo Chavez copi o Las venas abiertas de América Latina i Arlwydd UDA, Barack Obama, a oedd ar ei daith ddiplomatidd cyntaf i'r rhanbarth. Fe arweiniodd hyn at fersiwn Saeseng y nofel (Open Veins Of Latin America) gyrraedd #2 a'r ferswin Sbaeneg gyrraedd #11 ar restr gwerthiant gorau Amazon.com.