Mesopotamia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tegel (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 145.236.202.12 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.
Tagiau: Gwrthdroi
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Standard of Ur - War.jpg|250px|bawd|Rhan o Faner [[Ur]]: gorymdaith Rhyfel]]
[[Delwedd:Standard of Ur - War.jpg|250px|bawd|Rhan o Faner [[Ur]]: gorymdaith Rhyfel]]
:''Gweler hefyd: [[Mesopotamia (gwahaniaethu)]].''
:''Gweler hefyd: [[Mesopotamia (gwahaniaethu)]].''
Y rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd rhwng [[Afon Tigris]] ac [[Afon Ewffrates]] yng ngogledd-ddwyrain y [[Dwyrain Canol]] yw '''Mesopotamia''' ([[Groeg]]: μέσοποταμός 'Rhwng yr Afonydd').
Y rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd rhwng [[Afon Tigris]] ac [[Afon Ewffrates]] yng ngogledd-ddwyrain y [[Dwyrain Canol]] yw '''Mesopotamia''' ([[Groeg]]: μέσοποταμός 'Rhwng yr Afonydd'). Mae cnewyllyn hanesyddol y diriogaeth yn gyfateb yn fras i ganolbarth [[Irac]] heddiw, ond defnyddir yr enw hefyd (weithiau fel 'Mesopotamia Fawr') i ddynodi ardal sy'n cynnwys Irac, dwyrain [[Syria]], rhannau o dde-ddwyrain [[Twrci]] a de-orllewin [[Iran]]. Mae'n ffurfio pen dwyreiniol y [[Cryman Ffrwythlon]] ac yn cael ei alw'n grud gwareiddiad. Mae'r tir rhwng y ddwy afon ac ar eu glannau'n hynod o ffrwythlon am ei fod yn dir [[llifwaddod]]ol; bob tro mae'r afonydd hynny'n gorlifo gedwir llifwaddod ar eu hôl.

Y bobl cyntaf i fanteisio ar hyn ar raddau sylweddol oedd y [[Swmer]]iaid, a ymseyflodd ym Mesopotamia tua [[4,000 CC]] i drin y tir ffrwythlon a thyfu cnydau. Sefydlasant un o'r gwareiddiadau cyntaf yn hanes y byd a flodeuai yn ninas-wladwriaethau [[Ur]], [[Kish]], [[Uruk]] a safleoedd eraill. Yna daeth ymsefydlwyr eraill i'r ardal a daeth ymerodraeth [[Akkad]], a sefydlwyd gan [[Sargon]] yn Kish, i ddominyddu'r wlad. Daeth dinas [[Babilon]] yn brifddinas Mesopotamia dan y brenin [[Hammurabi]], enwog am [[Cyfraith Hammurabi|y cyfreithiau manwl]] a luniwyd yn ystod ei deyrnasiad (ar sail cyfreithiau hŷn). Ar ôl Hammurabi cafodd y rhanbarth ei meddianu gan oresgynwyr newydd - y [[Casiaid]], yr [[Asyriaid]] a'r [[Persiaid]] - ac ildiodd Mesopotamia le i'r [[Aifft]] Hynafol fel blaenredegydd gwareiddiad yn yr [[Henfyd]]. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth [[Alecsander Mawr]] a'i olynwyr, yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] a'r Persiaid cyn cael ei chwncweru gan y [[Islam|Mwslemiaid]] yn y [[7g]].

Dan y [[Califf]]iaid yn [[Baghdad]] tyfodd yr ardal i fod yn ganolfan dysg a diwylliant [[Islam]]aidd gyda Baghdad yn brifddinas [[ymerodraeth]] a ymestynnai o dde [[Sbaen]] a'r [[Maghreb]] i ffiniau [[Affganistan]] ac [[India]]. Yn y [[13g]] cwncweriwyd yr ardal gan y [[Mongoliaid]] dan [[Hulagu]] a'r [[Tartariaid]] dan [[Timus]] a dinistriwyd nifer o lefydd. Bu'n dyst wedyn i ymgiprys am rym rhwng [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] a'r Persiaid. Arhosodd Mesopotamia ym meddiant [[Twrci]] hyd ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a ffurfiwyd teyrnas [[Irac]] fel tiriogaeth ddibynnol dan [[yr Ymerodraeth Brydeinig]] (gweler [[Irac]]).


[[Categori:Mesopotamia| ]]
[[Categori:Mesopotamia| ]]

Fersiwn yn ôl 18:21, 7 Mai 2019

Map braslun o Fesopotamia
Rhan o Faner Ur: gorymdaith Rhyfel
Gweler hefyd: Mesopotamia (gwahaniaethu).

Y rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd rhwng Afon Tigris ac Afon Ewffrates yng ngogledd-ddwyrain y Dwyrain Canol yw Mesopotamia (Groeg: μέσοποταμός 'Rhwng yr Afonydd'). Mae cnewyllyn hanesyddol y diriogaeth yn gyfateb yn fras i ganolbarth Irac heddiw, ond defnyddir yr enw hefyd (weithiau fel 'Mesopotamia Fawr') i ddynodi ardal sy'n cynnwys Irac, dwyrain Syria, rhannau o dde-ddwyrain Twrci a de-orllewin Iran. Mae'n ffurfio pen dwyreiniol y Cryman Ffrwythlon ac yn cael ei alw'n grud gwareiddiad. Mae'r tir rhwng y ddwy afon ac ar eu glannau'n hynod o ffrwythlon am ei fod yn dir llifwaddodol; bob tro mae'r afonydd hynny'n gorlifo gedwir llifwaddod ar eu hôl.

Y bobl cyntaf i fanteisio ar hyn ar raddau sylweddol oedd y Swmeriaid, a ymseyflodd ym Mesopotamia tua 4,000 CC i drin y tir ffrwythlon a thyfu cnydau. Sefydlasant un o'r gwareiddiadau cyntaf yn hanes y byd a flodeuai yn ninas-wladwriaethau Ur, Kish, Uruk a safleoedd eraill. Yna daeth ymsefydlwyr eraill i'r ardal a daeth ymerodraeth Akkad, a sefydlwyd gan Sargon yn Kish, i ddominyddu'r wlad. Daeth dinas Babilon yn brifddinas Mesopotamia dan y brenin Hammurabi, enwog am y cyfreithiau manwl a luniwyd yn ystod ei deyrnasiad (ar sail cyfreithiau hŷn). Ar ôl Hammurabi cafodd y rhanbarth ei meddianu gan oresgynwyr newydd - y Casiaid, yr Asyriaid a'r Persiaid - ac ildiodd Mesopotamia le i'r Aifft Hynafol fel blaenredegydd gwareiddiad yn yr Henfyd. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth Alecsander Mawr a'i olynwyr, yr Ymerodraeth Rufeinig a'r Persiaid cyn cael ei chwncweru gan y Mwslemiaid yn y 7g.

Dan y Califfiaid yn Baghdad tyfodd yr ardal i fod yn ganolfan dysg a diwylliant Islamaidd gyda Baghdad yn brifddinas ymerodraeth a ymestynnai o dde Sbaen a'r Maghreb i ffiniau Affganistan ac India. Yn y 13g cwncweriwyd yr ardal gan y Mongoliaid dan Hulagu a'r Tartariaid dan Timus a dinistriwyd nifer o lefydd. Bu'n dyst wedyn i ymgiprys am rym rhwng Ymerodraeth yr Otomaniaid a'r Persiaid. Arhosodd Mesopotamia ym meddiant Twrci hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a ffurfiwyd teyrnas Irac fel tiriogaeth ddibynnol dan yr Ymerodraeth Brydeinig (gweler Irac).