Mater rhyngseryddol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:NGC_4414_%28NASA-med%29.jpg|300px|bawd|[[Galaeth]] NGC 4414, 60 miliwn blwyddyn goleuni i ffwrdd - llwch a '''mater rhyngseryddol''' arall yw'r mannau tywyll yn y llun]]
'''Mater rhyngseryddol''' yw'r deunydd, [[nwy]] [[Hydrogen]] a [[llwch]] yn bennaf, sydd i'w cael yn y gofod rhwng [[Seren|sêr]] ein [[galaeth]] ni ([[y Llwybr Llaethog]]) ac sy'n neilltuol o ddwys rhwng ei freichiau troellog.
'''Mater rhyngseryddol''' yw'r deunydd, [[nwy]] [[Hydrogen]] a [[llwch]] yn bennaf, sydd i'w cael yn y gofod rhwng [[Seren|sêr]] ein [[galaeth]] ni ([[y Llwybr Llaethog]]) ac sy'n neilltuol o ddwys rhwng ei freichiau troellog.



Fersiwn yn ôl 22:53, 15 Tachwedd 2006

Galaeth NGC 4414, 60 miliwn blwyddyn goleuni i ffwrdd - llwch a mater rhyngseryddol arall yw'r mannau tywyll yn y llun

Mater rhyngseryddol yw'r deunydd, nwy Hydrogen a llwch yn bennaf, sydd i'w cael yn y gofod rhwng sêr ein galaeth ni (y Llwybr Llaethog) ac sy'n neilltuol o ddwys rhwng ei freichiau troellog.

Fe'i ceir ar ffurf cymylau ionedig poeth, er enghraifft, rhanbarthau rhyngseryddol llai dwys ac oerach, neu gymylau dwys o hidrogen moleciwlar a moleciwlau eraill. Yn ogystal ceir cronynnau llwch yn y gofod ledled y galaeth.

Credir fod y llwch a nwy hyn yn tarddu o hen sêr, gweddillion supernovae. Mae rhai o'r cymylau mater rhyngseryddol yn feithrinfeydd sêr newydd.

Y prif arbenigwr yng Nghymru ar fater rhyngseryddol a'i astudiaeth yw'r athro Chandra Wickramasinghe, sy'n gweithio yng Nghaerdydd.