Thomas James Powell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B →Bywgraffiad: Golygu cyffredinol (manion), replaced: Cymrodd → Cymerodd using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - ''Castell Coch'', ''Castell Caerdydd'', ''Castell Caerffili'' a ''Caernarfon Castle'', gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines]] gyhoeddi arwisgiad [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Y Tywysog Siarl]]. Mae Powell yn cael ei gymharu â [[John Phillip Sousa]], cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau<ref name="brassbandresults">{{cite web |url=http://brassbandresults.co.uk/composers/t-j-powell/ |title=Composers: TJ Powell |published=BrassBandResults}}</ref>, gan ddwyn y teitl answyddgol; y ''Sousa Cymreig''. |

Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio ''Challenging Brass'', BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain [[Band |
Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio ''Challenging Brass'', BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain [[Band y Cory]] yn Stiwdio Gerddorfaol [[Caerdydd]] mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn [[Llundain]], ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymerodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio<ref name="melingriffith" />. |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 11:59, 29 Ebrill 2019
Thomas James Powell | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1897 Tredegar |
Bu farw | 29 Ionawr 1965 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfansoddwr, cerddolegydd |
Cyfansoddwr ac addysgwr Cymreig oedd Thomas James "TJ" Powell (12 Hydref 1897 – 8 Ionawr 1965).
Bywgraffiad
Fe'i ganwyd yn Nhredegar, Blaenau Gwent a dechreuodd ei yrfa gerddodrol fel chwaraewr offerynau taro a chornet gyda Band Pres Iau Byddin yr Iachawdwriaeth. Powell oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn angladd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, Cadfridog William Booth ar 27 Awst 1912.[1][2]. Cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â Band Tref Tredegar cyn ymuno â Band y Morfilwyr Brenhinol a pharhau â'i addysg cerddorol yn Ysgol Gerdd y Morfilwyr Brenhinol.
Ym 1920, dychwelodd i dde Cymru a chael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd ar Fand Corfflu Cadetiad a Gwirfoddolwyr Melingriffith yn Yr Eglwys Newydd. Gyda Powell yn arwain, dechreuodd Band Melingriffith wneud eu marc ar y byd bandiau pres gan godi o Ddosbarth "C" i Ddosbarth "A".
Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - Castell Coch, Castell Caerdydd, Castell Caerffili a Caernarfon Castle, gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r Frenhines gyhoeddi arwisgiad Y Tywysog Siarl. Mae Powell yn cael ei gymharu â John Phillip Sousa, cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau[3], gan ddwyn y teitl answyddgol; y Sousa Cymreig.
Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio Challenging Brass, BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain Band y Cory yn Stiwdio Gerddorfaol Caerdydd mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn Llundain, ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymerodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio[1].
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "Band Melingriffith: T.J. Powell". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Conductors: Thomas James Powell". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Composers: TJ Powell". Unknown parameter
|published=
ignored (help)