Gwenwynwyn ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) bocs dilyniant |
delwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:COA Gwenwynwyn ab Owain, Prince of Powys Wenwynwyn.svg|bawd|150px|Arfau Gwenwynwyn ab Owain]] |
|||
Roedd '''Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog''' (bu farw tua [[1216]]) yn dywysgog [[Powys Wenwynwyn]] o [[1195]] ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd [[teyrnas Powys]] yn ddwy, ei henw. |
Roedd '''Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog''' (bu farw tua [[1216]]) yn dywysgog [[Powys Wenwynwyn]] o [[1195]] ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd [[teyrnas Powys]] yn ddwy, ei henw. |
||
Fersiwn yn ôl 15:09, 23 Mehefin 2010
Roedd Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog (bu farw tua 1216) yn dywysgog Powys Wenwynwyn o 1195 ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd teyrnas Powys yn ddwy, ei henw.
Daeth Gwenwynwyn yn rheolwr Powys Wenwynwyn ar farwolaeth ei dad, Owain Cyfeiliog. Ym mlynyddoedd olaf y 12fed ganrif ceisiodd Gwenwynwyn ei sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, a gosododd warchae ar Gastell Paun yn 1198, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Normanaidd dan Geoffrey Fitz Peter.
Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a Llywelyn Fawr oedd wedi dod yn dywysog Gwynedd. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn 1202, ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin John o Loegr yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch Siwan.
Yn 1208 aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r Mers. Galwyd Gwenwynwyn i'r Amwythig i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd.
Rhwng 1212 a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym Mathrafal i'r Trallwng. Yn ddiweddarach ffoes i Loegr, lle bu farw tua'r flwyddyn 1216.
Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond meddianwyd Powys Wenwynwyn gan Lywelyn.
Llyfryddiaeth
- J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
Rhagflaenydd: Owain Cyfeiliog |
Tywysog Powys Wenwynwyn 1195–1216 |
Olynydd: Llywelyn Fawr |