Mynydd Chomolungma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ga:Sliabh Everest
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 82: Llinell 82:
[[gd:Beinn Everest]]
[[gd:Beinn Everest]]
[[gl:Everest]]
[[gl:Everest]]
[[gu:માઉન્ટ એવરેસ્ટ]]
[[hak:Chû-mu̍k-lòng-mâ-fûng]]
[[hak:Chû-mu̍k-lòng-mâ-fûng]]
[[he:אוורסט]]
[[he:אוורסט]]

Fersiwn yn ôl 12:10, 21 Mehefin 2010

Mynydd Everest
Himalaya
Mynydd Everest neu Qomolangma
Llun Mynydd Everest neu Qomolangma
Uchder 8,848m
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Tibet / Nepal


Mynydd Everest neu Qomolangma (hefyd Chomolungma, Nepaleg: Sagarmatha, Saesneg: Mount Everest) yw'r mynydd uchaf yn y byd. Fe'i lleolir ar y ffîn rhwng Tibet a Nepal yn yr Himalaya, ac mae ganddo uchder o 8,848 medr (29,028 troedfedd) uwch lefel y môr.

Enwi

Enwau hynafol y mynydd yn y Sansgrit yw Devgiri ("Mynydd Sanctaidd") a Devadurga. Chomolungma neu Qomolangma ("Mam y Bydysawd") yw'r enw Tibeteg, a Zhūmùlǎngmǎ Fēng (珠穆朗玛峰 neu 珠穆朗瑪峰}}) neu Shèngmǔ Fēng (圣母峰 neu 聖母峰) yw'r enw Tsieinëeg perthynol. Yn y Nepaleg fe'i gelwir yn Sagarmatha (सगरमाथा), "Pen yr Awyr".

Ym 1865, rhoddwyd yr enw Saesneg Everest ar y mynydd gan Andrew Waugh, Uwch-Arolygydd India ar y pryd. Yn eironig, roedd Syr George Everest, a enwyd y mynydd ar ei ôl, wedi dysgu Waugh i roi enwau cynhenid neu frodorol i bob endid daearyddol, ond doedd ddim modd i estronwyr teithio i Nepal nac i Tibet ar y pryd. Dyma dywedodd Waugh:

I was taught by my respected chief and predecessor, Colonel Sir George Everest to assign to every geographical object its true local or native appellation. But here is a mountain, most probably the highest in the world, without any local name that we can discover, whose native appellation, if it has any, will not very likely be ascertained before we are allowed to penetrate into Nepal. In the meantime the privilege as well as the duty devolves on me to assign…a name whereby it may be known among citizens and geographers and become a household word among civilized nations.

Yn y 1960au cynar, sylweddolodd llywodraeth Nepal nad oedd enw Nepaleg gan y mynydd. Y rheswm am hyn yw nad oedd pobl yr ardaloedd draddodiadol Nepaleg (hynny yw, Dyffryn Kathmandu a'r ardaloedd cyfagos) yn gyfarwydd â'r mynydd. Ceisiodd y llywodraeth ddarganfod enw i'r mynydd (doedd yr enw Sherpa/Tibeteg Chomolangma ddim yn dderbyniol iddynt, gan eu bod yn ceisio uno a "Nepaleiddio'r" wlad) . Dyfeiswyd yr enw Sagarmatha (सगरमाथा) gan Baburam Acharya.

Yn 2002, cyhoeddodd y papur newydd Tseinëeg Rénmín Rìbào erthygl yn dadlau na ddylid defnyddio'r enw Saesneg yn y byd Gorllewinol mwyach, ac y dylid defnyddio'r enw Tibeteg. Dadlent fod yr enw hwnnw'n hŷn na'r un Saesneg, gan i Qomolangma gael ei nodi ar fap Tseinëig mwy na 280 mlynedd yn ôl.[1]

Dringo'r mynydd

Bu nifer o ymdrechion i gyrraedd y copa cyn yr Ail Ryfel Byd, y cyfan ond un ohonynt gan dimau Prydeinig, gan nad oedd caniatâd i ddringo'r mynydd o ochr Tibet a bod Nepal yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Yn ystod un o'r rhain, yn 1924, diflannodd George Mallory ac Andrew Irvine wrth geisio cyrraedd y copa, a bu awgrymiadau eu bod efallai wedi cyrraedd y copa ond wedi marw ar y ffordd i lawr. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw na allent fod wedi cyrraedd y copa. Yn 1999 cafwyd hyd i gorff Mallory ar y mynydd.

Y cyntaf i gyrraedd y copa oedd Edmund Hillary a Tenzing Norgay ar 29 Mai, 1953. Ers hynny mae cryn nifer o ddringwyr wedi cyrraedd y copa; mae'r mynydd yn haws yn dechnegol na rhai o'r copaon 8,000 medr eraill megis K2 a Nanga Parbat. Er hynny, mae uchder y mynydd yn creu problemau mawr, ac am flynyddoedd ystyrid fod yn rhaid cael ocsigen ychwanegol i'w ddringo. Fodd bynnag yn 1978 dringodd Reinhold Messner a Peter Habeler y mynydd heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.

Ar 25 Mai 2008 cyrhaeddodd Bahadur Sherchan, 76 oed o Nepal, y copa gan osod record newydd am y person hynaf i ddringo'r mynydd.

Cyfeiriadau

  1. Web Reference
Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma


Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Uwch-Arolygydd India o'r Saesneg "Surveyor-General of India". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol