Leonardo da Vinci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 3: Llinell 3:
[[Arlunydd]], dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd '''Leonardo da Vinci''' ([[15 Ebrill]] [[1452]] – [[2 Mai]] [[1519]]). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y ''[[Mona Lisa]]'' a'r ''[[Y Swper Olaf (Leonardo)|Swper Olaf]]'' ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.

==<u>Bywyd a gyrfa cynnar</u>==
==Bywyd a gyrfa cynnar==

Cafodd Leonardo ei eni mewn ffermdy ger pentref bychan Anchiano, tua 3&nbsp;km o dref [[Vinci]] yn [[yr Eidal]]. Roedd yn blentyn gordderch i gyfreithiwr ifanc o'r enw Ser Piero da Vinci a, mae'n debyg, merch gwerin o'r enw Caterina. Tyfodd Leonardo i fyny gyda'i dad yn [[Fflorens]] lle dechreuodd dynnu lluniau a peintio, wedi'i ysbrydoli gan natur a thirwedd ardal [[Toscana]]. Roedd ei luniau cynnar o ansawdd mor uchel dechreuodd ei aprentisiaeth gyda'r peintiwr a cherfluniwr [[Andrea del Verrocchio]] yn 14 mlwydd oed.

Fersiwn yn ôl 19:54, 24 Ebrill 2019

Leonardo da Vinci
GanwydLeonardo di ser Piero da Vinci Edit this on Wikidata
15 Ebrill 1452 Edit this on Wikidata
Anchiano Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1519 Edit this on Wikidata
Amboise Edit this on Wikidata
Man preswylFenis, Fflorens, Rhufain, Fflorens, Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, peiriannydd, seryddwr, athronydd, anatomydd, mathemategydd, cerflunydd, polymath, pensaer, peiriannydd sifil, diplomydd, dyfeisiwr, cyfansoddwr, ffisegydd, ffisiolegydd, botanegydd, cemegydd, swolegydd, cartwnydd dychanol, gwyddonydd, drafftsmon, cynllunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cesare Borgia
  • Ludovico Sforza Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAddoliad y Doethion, Morwyn Fair y Creigiau, Mona Lisa, Y Swper Olaf, Y Feinir â'r Carlwm, Dyn Vitruvius, Cyfarchiad Mair, Sant Sierôm yn yr Anialwch, Y Forwyn a'r Plentyn gyda'r Santes Ann, Ioan Fedyddiwr, sgriw awyr Leonardo, Portrait of Isabella d'Este, La Scapigliata, Salvator Mundi, y Cyfarchiad Edit this on Wikidata
Arddullportread, paentiadau crefyddol, celfyddyd grefyddol Edit this on Wikidata
Mudiadyr Uchel Ddadeni, y Dadeni Dysg Edit this on Wikidata
TadSer Piero da Vinci Edit this on Wikidata
MamCaterina di Meo Lippi Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd, dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd Leonardo da Vinci (15 Ebrill 14522 Mai 1519). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y Mona Lisa a'r Swper Olaf ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.

Bywyd a gyrfa cynnar

Cafodd Leonardo ei eni mewn ffermdy ger pentref bychan Anchiano, tua 3 km o dref Vinci yn yr Eidal. Roedd yn blentyn gordderch i gyfreithiwr ifanc o'r enw Ser Piero da Vinci a, mae'n debyg, merch gwerin o'r enw Caterina. Tyfodd Leonardo i fyny gyda'i dad yn Fflorens lle dechreuodd dynnu lluniau a peintio, wedi'i ysbrydoli gan natur a thirwedd ardal Toscana. Roedd ei luniau cynnar o ansawdd mor uchel dechreuodd ei aprentisiaeth gyda'r peintiwr a cherfluniwr Andrea del Verrocchio yn 14 mlwydd oed.

Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.

Y Gwyddonydd a'r dyfeisydd

Anatomi

Sgetsis yn dyddio nôl i 1510 gan yr arlunydd a'r dyfeisydd Leonardo da Vinci.

Dechreuodd ei brentisiaeth ffurfiol mewn anatomi wrth draed Andrea del Verrocchio, ei athro a fynnodd fod pob un o'i ddisgyblion yn astudio anatomi cyn mynd ati i ddysgu arlunio. Daeth da Vinci'n feistr ar anatomi gweledol gan ymarfer y cyhyrau, y tendonau a ffurfiau eraill y corff.

Oherwydd ei lwyddiant fel arlunydd, cafodd yr hawl i weithio ar gyrff marw yn Ysbyty Santa Maria Nuova yn Florence, Milan a Rhufain, gan agor y cyrff i weld sut roedd y cyhyrau ac organau mewnol yn gorwedd ac yn gweithio. Gweithiodd gyda meddyg (Marcantonio della Torre) rhwng 1510 a 1511 gan gydlunio papur ar anatomi a oedd yn cynnwys dros 200 o'i luniau. Fe'i cyhoeddwyd yn 1680 (161 blwyddyn wedi'i farwolaeth).

Y Dyfeisydd

Cynllun o beiriant hedfan, (c. 1488) Institut de France, Paris

Yn ystod ei oes, roedd leonardo'n cael ei barchu'n fawr fel peiriannydd galluog iawn. Mewn llythyr at Ludovico il Moro honodd y gallai greu pob math o beiriannau i ymosod ac i amddiffyn tref. Pan ddihangodd i Fenis yn 1499 cafodd waith fel peiriannydd i gynllunio amddiffynfeydd i'r ddinas, rhag ymosodiadau. Mae ei bapurau'n orlawn o bob math o ddyfeiadau a oedd o flaen eu hamser ac sy'n cynnwys offerynau cerdd newydd, y pwmp hydrolig, cannon a weithiau gyda stem a'r hofrenydd.

Ei waith enwocaf

Cysylltiau Allanol

Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.