Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Capsot (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 99: Llinell 99:


Hey Lloffiwr. Thanks for working on the [[m:Fundraising 2009/supplementary messages/cy|Fundraising supplementary messages]]. I'm almost done creating the buttons for the "[[wmf:Support/cy|Support Wikipedia]]" page, but Welsh is missing those messages. Only a few messages (11) are needed and they're pretty simple! Would you mind translating them so that they can be used on the new page? They're the 11 messages in the "Button phrases" part. Thanks, [[Defnyddiwr:Cbrown1023|Cbrown1023]] 02:21, 4 Mawrth 2010 (UTC)
Hey Lloffiwr. Thanks for working on the [[m:Fundraising 2009/supplementary messages/cy|Fundraising supplementary messages]]. I'm almost done creating the buttons for the "[[wmf:Support/cy|Support Wikipedia]]" page, but Welsh is missing those messages. Only a few messages (11) are needed and they're pretty simple! Would you mind translating them so that they can be used on the new page? They're the 11 messages in the "Button phrases" part. Thanks, [[Defnyddiwr:Cbrown1023|Cbrown1023]] 02:21, 4 Mawrth 2010 (UTC)
== Helo, could you help us, please! ==
ói bore da! Sorry this is the only thing I'm able to write in Welsh for now. I'm Claudi Balaguer, member of a Catalan association "Amical de la Viquipèdia" which is trying to become a Chapter but has seen this rejected because it doesn't belong to a/one state! Since you're Welsh you understand too well what it is to be a speaker of a minorized language. If you think that our action may help all the minorized or stateless languages and preserve our cultures you can paste the following template on your user page [[Nodyn:Wikimedia CAT|Wikimedia CAT]]. Thanks/diolch for your help! I wish you a pleasant and sunny summertime. Take care, hwyl fawr! [[Defnyddiwr:Capsot|Capsot]] 10:20, 15 Mehefin 2010 (UTC)

Fersiwn yn ôl 10:20, 15 Mehefin 2010

Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr/Archif 1


Categori

Diolch Eleri. Mae 'na gymaint i'w wneud yma! Dwi'n siwr fod pawb yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau chi hefyd.

Mae un peth yn arbennig yn fy nrysu braidd, sef y defnydd o'r categorïau. Daw sawl pwynt i'r meddwl.

1. Dewis enw priodol ar gyfer categori newydd. Mae hi mor anhwylus ceisio chwilio yn y rhestr categorïau i weld a oes categori tebyg yn bodoli eisoes, a hynny yn bennaf am fod pob dyddiad yn cael ei gyfri fel categori. Onid oes modd cael rhestr ar ffurf "coeden", er enghraifft?
2. Pam nad yw'r prif gategorïau ar gael ar y ddalen Hafan (neu rywle arall fyddai'n gyfleus) er mwyn cael mynediad hwylus atynt? Ar hyn o bryd mae Llenyddiaeth, er enghraifft, yn eich cymryd i stwbyn o dudalen digon cyffredinol sy ddim yn llawer o iws i rywun, yn ymwelydd neu'n gyfranydd, sy'n chwilio am gategori penodol.

Dwi ddim yn gwybod os medrwch chi wneud rhywbeth i ddatrys hyn, ond yn fy marn i mae angen gwneud rhywbeth gynted â phosibl. Ar hyn o bryd mae ymwelydd yn debyg o fethu ffeindio hanner yr erthyglau ar y seit heb hir amynedd, a gresyn ydi hynny.

Fôn.Anatiomaros 22:37, 18 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gennyf fod cyhyd cyn ateb yr uchod. Rwyn cytuno bod angen gwelliant ar y categorïau ond hyd yn hyn, er crafu pen, heb weld y ffordd yn glir na bod â digon o egni i daclo'r peth. Y tudalennau help yw'r bwgan pennaf gen i ar hyn o bryd. Mae'n dda iawn gennyf eich gweld yn taclo busnes y categorïau ac yn ddigon parod i dreulio peth amser wrth hwn. Bydd yn well mynd â'r drafodaeth draw at y caffi ymhen hir neu hwyr ond rhof yr ymateb gyntaf fan hyn.

At eich pwyntiau:

  1. Y lle gorau i astudio posibiliadau cynllunio ar gyfer y categorïau yw Wikipedia Saesneg. Mae ganddynt goeden categorïau fan hynny ac rwyn credu mai rhywbeth gweddol o newydd yw hynny (ac efallai heb lwyr ymgartrefu eto). Mae ganddynt hefyd 'quick index' yn nhrefn yr wyddor – byddai hynny'n ateb y broblem bod y rhestr categorïau yn drwsgl iawn.
  2. A ydych wedi gweld bod Adam7Davies wedi bod wrthi'n ail-wampio'r dudalen hafan? Mae'r drafft ar Defnyddiwr:Adam7davies/Hafan. Dyma gyfle felly i adnewyddu'r cysylltiadau presennol ar hafan. Falle y bydde'n syniad gweld pa gategorïau sy'n weddol lawn yn barod a'u rhoi ar yr hafan, serch nad ydynt efallai yn brif gategorïau, er mwyn hwyluso mynediad at yr erthyglau sydd yn bod.

Problem mwy i ni yw bod angen llawer yn rhagor o erthyglau sy'n cyflwyno categorïau er mwyn creu cyfanwaith i'w bori! Ar y cyfan mae wicipedia yn llawn dechreuadau pethau sydd fel y soniaist am y cyswllt i Lenyddiaeth yn gallu siomi'r darllenydd yn rhwydd. Amser i wicipedia gael tyfu yw'r unig ateb hirdymor.

Mae sawl un o'r Wicïau erall wedi ehangu digon i fod â phorthau yn hytrach na chategorïau fel eu prif offer llywio drwy'r wici. Mae Adam wedi gwneud bocs llywio ar gyfer y Gymraeg, gan bod hwnnw'n ddigon mawr i wneud hynny. Mae potensial i ni ddechrau pyrth a bocsys llywio ar gyfer rhai adrannau eraill megis adar, Cymru a phobl.

Dyna ddigon am nawr. Diolch i chi am ddechrau trafodaeth ar hwn. Lloffiwr 11:30, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Nodiadau ar gyfer y ffurflen uwchlwytho

Y rheswm pam oedd Nodyn:Manylion yn edrych fel nad oedd yn gweithio oedd y tagiau <includeonly></includeonly>. Does gen i ddim syniad ar sut i'w osod ar y ffurflen uwchlwytho, mae'n flin gen i. Dwi newydd bod yn chwilio trwy negeseuon MediaWici'r Comin a commons:Template talk:Information (gan fod commons:Template:Information yn ymddangos yn y blwch ar [1]) am ryw fath o eglurhad, ond methu darganfod y gyfrinach! Cofion, --Adam (Sgwrs) 22:11, 13 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Yr wyddor Gymraeg

Helo Lloffiwr, dyma ymateb i neges adawoch chi i fi ym mis Gorffennaf (!). Yr unig broblem yw mai A-By-Cy ddeuai'n naturiol imi yn hytrach na'r Abiec, felly dw i ddim yn meddwl mai fi yw'r boi at y dasg o recordio'r wyddor Gymraeg. Byddwn i'n fodlon gwneud y llall, ond bydde hynny'n mynd yn groes i'r erthygl ysgrifenedig! Falle ca i gyfle dros y gwylie i ffeindio rhywun fydd yn gallu ac yn fodlon adrodd yr wyddor yn yr hen ffordd... Nadolig Llawen, gyda llaw! Jac y jwc 14:05, 24 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

polisi preifatrwydd

Ysgrifennaist ti: Os wyt ti am fentro ar gyfieithu peth o'r darpar polisi rho gynnig arni.

Sori, mae'n ymddangos yn rhy anodd i mi yn anffodus. Cofion, Alan 15:40, 17 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n gweld dy fod di'n cyfieithu'r testun yn y dudalen sgwrs. Beth am ei symud i is-dudalen am rwan, e.e. Wicipedia:Polisi preifatrwydd‎/newydd? Pob tro pan wela i "sgwrs" yn y newidiadau diweddar, dwi'n meddwl bod trafodaeth yn digwydd! Diolch. Alan 13:32, 24 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Newydd ail-gydio yn y gwaith hwn ac wedi symud y drafft. Lloffiwr 19:13, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Y Llyfrgell Luniau...

Dw i wedi gadael neges gynnil yn y caffi'n holi hynt a helynt diweddara dy gysylltiad â'r LLG. Unrhyw symudiad? Llywelyn2000 14:42, 22 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Yn eithriadol o brysur yn y gwaith ar hyn o bryd. Yn gobeithio cael cyfle i gysylltu â'r Llyfrgell y penwythnos nesaf, ac i roi nodyn ar y Caffi ynglŷn â'r nodiadau sy'n barod i'w trafod. Lloffiwr 13:04, 24 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

O! Gwych! Y gwaith pwysicaf allaf feddwl amdano. Mae dyfodol Wicipedia yn dy ddwylo medrus di. Llywelyn2000 19:46, 24 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Unrhyw symudiad o du'r Llyfrgell Genedlaethol? Ydan ni'n disgwyl ymateb ganddynt? Dwi'n barod i'w cyfarfod neu eu ffonio os oes angen. Mae hyn yn hanfodol i Wici symud ymlaen. Llywelyn2000 07:20, 29 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dim ymateb i fy e-bost ddiwethaf atynt ond fe wnaf fentro ar y cam nesaf o roi eu trwydded ar waith yr wythnos hon sy'n dod. Y gwaith mawr wedyn fydd ysgrifennu canllaw yn disgrifio sut i uwchlwytho ac ail-ysgrifennu'r dudalen uwchlwytho. Gan nad wyf wedi darganfod sut mae creu cyswllt awtomatig i 'input box' newydd ar gyfer uwchlwytho ffeiliau a thrwydded arbennig, rhaid gwneud y tro gydag eglurhad ar sut i fynd drwy'r broses o wneud y nodiadau ar y cyfiawnhad dros ychwanegu lluniau heb drwydded, heb help 'input box' pwrpasol. Lloffiwr 13:23, 30 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Canllaw i bwy? I'r LLGC uwchlwytho delweddau o'u ffotograffau sydd wedi'u digideiddio? Beth sydd o'i le ar y botwm arferol "Uwchlwytho Ffeil"? Neu a ydw i'n methu?
Efallai, ar ôl disgwyl deuddydd, heb ateb i ebost, y byddai'n syniad da eu ffonio? Mae dau fis yn amser hir i ddisgwyl am ebost. Pwy ydy'r cyswllt yn y LlGC? Llywelyn2000 22:44, 30 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Gosodaist y drwydded ar: Nodyn:Termau LLGC. Rwyt ti'n werth y byd yn grwn! Gwych. Beth ydy'r cmau nesaf? Llywelyn2000 23:09, 15 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Beth ydy'r camau nesaf, lloffiwr? Chwilio am luniau? O ble? Eu gosod gyda'r Nodyn:Termau LLGC? Oes unrhywbeth ar bapur? A ellir sganio'r caniatad a'i roi ar dudalen y Llyfrgell? Llywelyn2000 23:34, 27 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Henffych Eleri? Beth ydy'r diweddaraf gyda'r Llyfrgell genedlaethol? Gweler hefyd fy neges uchod. Llywelyn2000 16:05, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Yn brysur iawn ar hyn o bryd - dof at y gwaith o ysgrifennu'r tudalennau help pan allaf a trwsio'r links, a darganfod sut mae ychwanegu input box, etc,etc,etc,etc pan fydd amser gennyf, os na fydd neb arall wedi bwrw iddi. Lloffiwr 12:42, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Bwrw iddi i wneud beth Lloffiwr? Dwi'n meddwl mai dim ond ti sydd wedi bod yn y trafodaethau, ac felly ti yn unig all wneud hyn. OND (fel y gofynais uchod 27/06/2009) Beth ydy'r camau nesaf, lloffiwr? Chwilio am luniau? O ble? Eu gosod gyda'r Nodyn:Termau LLGC? Oes unrhywbeth ar bapur? A ellir sganio'r caniatad a'i roi ar dudalen y Llyfrgell?
Yn ail, a oes unrhyw gytundeb ar bapur rhyngom a'r Llyfrgell? Os oes yna efallai mai da o beth fyddai ei sganio a'i gyhoeddi yma.
Os wyt eisiau help - GWEIDDA! Mae na ddigon ohonom i helpu dim ond i ti ofyn ac egluro beth sydd i'w wneud. Paid a meddwl mod i'n bychanu dy waith mewn unrhyw fodd, yn wir gwn i ti fod wrthi'n ddeheuig iawn dros y blynyddoedd, ond mae hyn yn llusgo ymlaen ers blwyddyn neu ddwy bellach. Llywelyn2000 22:14, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Y camau nesaf yw -

ysgrifennu tudalennau cymorth ar uwchlwytho'n gyffredinol, ac ar uwchlwytho lluniau'r llyfrgell
gwella'r ffurflenni uwchlwytho, yn gyntaf trwy osod cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu nodyn yn rhoi'r cyfiawnhad dros ychwanegu'r llun o gasgliad y Llyfrgell, yna dysgu sut mae ychwanegu cyswllt rhwng y dewisiadau sy'n mynd â dyn yn syth at dudalen sydd ag 'input box' arall sy'n gosod y nodyn cyfiawnhad - rwy'n cael trafferth yn egluro hyn yn iawn achos nad wyf yn ei ddeall yn iawn - os edrychwch ar y ffurflen uwchlwytho ar Wikipedia Saesneg mae yna ddau gam i'r uwchlwytho pan nad oes trwydded rhydd i'r llun - ar ôl pwyso ar y dewis ar gyfer llun heb drwydded rhydd mae'r meddalwedd yn mynd â dyn at dudalen arall gyda'r 'input box' ar gyfer rhoi cyfiawnhad dros lwytho'r llun. Dysgu sut mae hyn yn digwydd sydd angen ei wneud.
Mae angen dysgu sut mae copïo un o'r lluniau o wefan y llyfrgell a chreu ffeil y gellir ei uwchlwytho ar Wicipedia. Mae'r llyfrgell wedi gosod brawddeg ar eu tudalen rwyn credu sydd yn ein gwahodd i uwchlwytho lluniau o'r casgliad. Nid ydynt am roi caniatad ffurfiol i ni gopïo'r lluniau - dyna pam bod problem yn y lle cyntaf. Lloffiwr 22:58, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Beth am symlhau'r cwbwl? ee 1. Botwm chwith Uwchlwytho ffeil. 2. Llenwi'r rhan 'Crynodeb' gyda un neu ddau o eiriau sy'n cysylltu a'r Drwydded ee Nodyn:Trwydded LLGC. 3.Eistedd yn ol a gwneud paned.
Dwi'n credu fod ydrwydded wedi ei orffen; ydw i'n iawn?
Oes gwaith papur rhyngom? Llywelyn2000 23:07, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Beth yw ystyr y cwestiwn 'oes gwaith papur rhyngom?' Lloffiwr 23:32, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
I ailadrodd - Yn ail, a oes unrhyw gytundeb ar bapur rhyngom a'r Llyfrgell? Os oes yna efallai mai da o beth fyddai ei sganio a'i gyhoeddi yma. Llywelyn2000 23:35, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Does dim cytundeb ar bapur. Lloffiwr 23:36, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Oni fyddai hi'n beth da iddynt ddanfon llythyr atat, a'i sganio; rhag ofn iddyn nhw droi ar eu sodlau agwadu'r cwbwl? Llywelyn2000 23:38, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Neges bwysig i bob gweinyddwr

Yn dilyn trafodaeth yn y Caffi (gweler yma), mae Luke wedi creu tudalen newydd ar gyfer materion gweinyddol, sef Negesfwrdd gweinyddiaeth. Y syniad yw defnyddio'r Caffi ar gyfer negeseuon cyffredinol a defnyddio'r bwrdd newydd fel lle i drafod a datrys - gobeithio - materion fel nodiadau, categorïau, fandaliaeth a phethau eraill sy'n rhan o waith gweinyddwyr. Bydd yn gymorth i gadw trafodaethau gyda'i gilydd ac yn rhyddhau lle yn y Caffi. Hoffwn ofyn i bawb sy'n weinyddwr ei roi ar eu rhestr gwylio a'i ddefnyddio. Gobeithio bydd yr arbrawf yn llwyddiant ac yn gwneud ein gwaith yma yn haws. Anatiomaros 21:52, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Gwell peidio â gwneud sylwadau amharchus am ein cyd-gyfrannwyr.

Nid cyd-gyfrannwr ydy o o hyd ar ôl iddo fo adael. Y ddraig felyn 18:52, 28 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Hey Lloffiwr. Thanks for working on the Fundraising supplementary messages. I'm almost done creating the buttons for the "Support Wikipedia" page, but Welsh is missing those messages. Only a few messages (11) are needed and they're pretty simple! Would you mind translating them so that they can be used on the new page? They're the 11 messages in the "Button phrases" part. Thanks, Cbrown1023 02:21, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Helo, could you help us, please!

ói bore da! Sorry this is the only thing I'm able to write in Welsh for now. I'm Claudi Balaguer, member of a Catalan association "Amical de la Viquipèdia" which is trying to become a Chapter but has seen this rejected because it doesn't belong to a/one state! Since you're Welsh you understand too well what it is to be a speaker of a minorized language. If you think that our action may help all the minorized or stateless languages and preserve our cultures you can paste the following template on your user page Wikimedia CAT. Thanks/diolch for your help! I wish you a pleasant and sunny summertime. Take care, hwyl fawr! Capsot 10:20, 15 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]