Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
iaith
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Tudalennau cymorth Wicipedia (bar pennawd)}}
{{Wicipedia:Tiwtorial/PennawdTabiau|This=5}}
<div style="border:2px solid #A3B1BF; padding:.5em 1em 1em 1em; border-top:none; background-color:#fff; color:#000">
<div style="border:2px solid #A3B1BF; padding:.5em 1em 1em 1em; border-top:none; background-color:#fff; color:#000">

Fel yr esbonnir yn [[Wicipedia:Amdano|Amdano Wicipedia]], "os ydych yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn [[Wicipedia:Nodi ffynonellau|cynnwys eich ffynonellau]], oherwydd [[Wicipedia:Gwiriadwy|gellir cael gwared â ffeithiau heb ffynonellau]]." Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio [[Wicipedia:Nodi ffynonellau#dyfyniad_mewnol|dyfyniad mewnol]] er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ychwanegu. Yn ogystal â hyn, sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn [[Wicipedia:Ffynonellau dibynadwy|ddibynadwy ac yn rhai y gellir ymddiried ynddynt]].
Fel yr esbonnir yn [[Wicipedia:Amdano|Amdano Wicipedia]], "os ydych yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn [[Wicipedia:Nodi ffynonellau|cynnwys eich ffynonellau]], oherwydd [[Wicipedia:Gwiriadwy|gellir cael gwared â ffeithiau heb ffynonellau]]." Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio [[Wicipedia:Nodi ffynonellau#dyfyniad_mewnol|dyfyniad mewnol]] er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ychwanegu. Yn ogystal â hyn, sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn [[Wicipedia:Ffynonellau dibynadwy|ddibynadwy ac yn rhai y gellir ymddiried ynddynt]].



Fersiwn yn ôl 04:26, 12 Mehefin 2010

Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    

Fel yr esbonnir yn Amdano Wicipedia, "os ydych yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ffynonellau, oherwydd gellir cael gwared â ffeithiau heb ffynonellau." Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio dyfyniad mewnol er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ychwanegu. Yn ogystal â hyn, sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn ddibynadwy ac yn rhai y gellir ymddiried ynddynt.

Troednodiadau

Y ffordd hawsaf o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau. Gallwch greu troednodiadau gydag iaith farcio Wici (o dan y blwch golygu ar eich GUI Wici) drwy ychwanegu tagiau cyfeirio

  • <ref>EICH FFYNHONNELL</ref> ref tags o amgylch eich ffynhonnell, ac os nad yw yno eisoes,
  • {{Reflist}} neu <cyfeiriadau/> o dan y pennawd ==Cyfeiriadau== yn agos i waelod y dudalen.

Os mai gwefan yw'ch ffynhonnell, dylech greu dolen allanol i gyfeiriad y wefan. Peidiwch â defnyddio erthyglau eraill o Wicipedia fel ffynonellau.

Er mwyn creu dolen allanol i'ch ffynhonnell, rhowch gyfeiriad y wefan (yr URL) mewn cromfachau sgwâr cyn y testun a fyddwch yn ychwanegu, megis

  • <ref>[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]</ref>

Mae'n syniad da, er nad yn angenrheidiol, i ddarparu disgrifiad byr ar ôl cyfeiriad y ddolen allanol. Bydd y disgrifiad hwn yn ymddangos yn y rhestr o gyfeiriadau fel teitl y ddolen allanol, yn hytrach na chyfeiriad URL y wefan.

Er mwyn dyfynnu o wefan heb roi esboniad, gallwch roi'r URL a'i gynnwys mewn tagiau cyfeirio, er enghraifft

  • <ref>http://www.google.com</ref>

Ar gyfer nodiadau sy'n eich galluogi i fformatio cyfeiriadau, megis dolenni at erthyglau newyddion, gweler Wicipedia:Nodiadau dyfynnu.

Yr adran ddolenni allanol

Mae gan nifer o erthyglau Wicipedia adran ar wahân o'r enw Dolenni allanol. Mae'r adran hon ar gyfer cysylltu â gwefannau sydd â gwybodaeth ychwanegol, sylweddol a dibynadwy am bwnc yr erthygl. Nid yw pob dolen allanol yn addas i'w defnyddio mewn erthygl Wicipedia, gweler Wicipedia:Dolenni allanol am arweiniad. Cyn ychwanegu gwefan i adran Dolenni allanol, fe'ch anogir i drafod hyn ar dudalen Drafod (sgwrs) yr erthygl honno.

Os ydych yn teipio'r URL llawn ar gyfer y dudalen yr hoffech gysylltu â hi:

http://www.google.com

Bydd y wici yn ystyried y testun hwn fel dolen yn awtomatig (fel y mae wedi gwneud gyda'r URL uchod) a bydd yn arddangos cyfeiriad y wefan fel y mae, gan gynnwys y rhan "http://". Fe'ch argymhellir i beidio defnyddio'r fformat hwn yn ormodol, am fod URLs ar eu pennau eu hunain yn hyll ac yn aml nid ydynt yn awgrymu dim ynglŷn â beth mae'r wefan yn sôn amdano.

Trwy gynnwys bwlch ar ôl URL ac o fewn set unigol o gromfachau, gallwch benderfynu ar y testun a fyddyn weledol, er enghraifft:

[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]

Dim ond y testun sy'n dilyn y bwlch sydd yn weledol, ond bydd yn cadw'r ddolen a welir fan hyn o hyd:

Peiriant chwilio Google


Profwch yr hyn rydych wedi dysgu yn y Pwll tywod

Parhau â'r tiwtorial gyda Tudalennau sgwrs