Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: no:Beltane |
|||
Llinell 37: | Llinell 37: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
{{Gwyliau Celtaidd}} |
|||
{{Gwyliau_Gaelaidd}} |
|||
[[Categori:Gwyliau]] |
[[Categori:Gwyliau]] |
Fersiwn yn ôl 23:13, 9 Mehefin 2010
Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir Gŵyl Calan Mai, neu Calan Haf) sef 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid, a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd Beltane neu Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Fel mae'r enw Beltane yn awgrymu, mae'r duw Celtaidd Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Roedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.
Arferion ac arwyddocád
Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.[1]
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.[2]
Yn ôl y Mabinogi, arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau Cymreig
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.[3]
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.[4]
- Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.[5]
- Yfid medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.[6]
Neo-baganiaeth
Mae'n un o'r gwyliau Wica ac fe'i dethlir gan neo-baganiaid eraill hefyd.
Gwleidyddiaeth
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889.
Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.
Gweler hefyd:
Cyfeiriadau
|