La Marseillaise: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ms:La Marseillaise
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ar:لامارسييز
Llinell 65: Llinell 65:


[[af:Marseillaise]]
[[af:Marseillaise]]
[[ar:لا مارسيلايز]]
[[ar:لامارسييز]]
[[az:Marselyeza]]
[[az:Marselyeza]]
[[bar:Marseillaise]]
[[bar:Marseillaise]]

Fersiwn yn ôl 20:11, 9 Mehefin 2010

Rouget de l'Isle yn canu "La Marseillaise", 1849 ,Isidore Pils, Strasbourg, Musée des Beaux-Arts.

La Marseillaise ("Cân Marseille") yw anthem genedlaethol Ffrainc. Cyfansoddwyd hi gan Rouget de Lisle yn Strasbourg yn ystod noson y 25 i 26 Ebrill 1792, wedi i Ffrainc gyhoeddi rhyfel yn erbyn Ymerawdwr Awstria. Y teitl gwreiddiol oedd Chant de guerre pour l'armée du Rhin ("Rhyfelgan i Fyddin Afon Rhein").

Cafodd y gân ei chanu am y tro cyntaf gan filwyr Marseille oedd wedi dod i Baris i gefnogi'r Chwyldro Ffrengig, a rhoddwyd yr enw La Marseillaise arni. Cyhoeddwyd La Marseillaise yn anthem genedlaethol ar 14 Gorffennaf, 1795. Dan ymerodraeth Napoleon ac ar ôl adfer y teulu brenhinol, gwaharddwyd y gân, ond wedi'r chwyldro yn 1830 fe'i gwnaed yn anthem genedlaethol eto dan y Drydedd Weriniaeth.

Defnyddiwyd y dôn ar gyfer Yr Internationale pan gyfansoddwyd geiriau y gân honno gyntaf, ond yn ddiweddarch cafodd dôn arall.

Er bod gan y gân wreiddiol nifer o benillion, dim ond y pennill cyntaf a genir yn Ffrainc fel rheol:


La Marseillaise

Allons, enfants de la Patrie Dewch, blant y famwlad
Le jour de gloire est arrivé ! Cyrhaeddodd diwrnod gogoniant!
Contre nous de la tyrannie Yn ein herbyn, gormes
L'étendard sanglant est levé. Gododd ei baner waedlyd. (ailadrodd)
Entendez-vouz dans les campagnes Glywch chi yn y caeau
Mugir ces féroces soldats ? Udo y milwyr ffyrnig?
Ils viennent jusque dans vos bras Maent yn dod i'ch plith
Égorger vos fils, vos compagnes ! I dorri gyddfau'ch meibion, eich gwragedd!
 
Aux armes, citoyens ! I'r gad, ddinasyddion!
Formez vos bataillons ! Ffurfiwch eich bataliynau!
Marchons, marchons ! Ymdeithiwn, ymdeithiwn!
Qu'un sang impur A boed i waed amhur
Abreuve nos sillons ! Ddyfrhau ein caeau!