Dafydd Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfeiriadau - wel, o leia mae gennym un....
Llinell 72: Llinell 72:
*{{dyf llyfr| awdur=Llion Iwan| teitl=Dafydd Iwan: Bywyd mewn lluniau - A life in pictures| cyhoeddwr=Gwasg Gomer| blwyddyn=2005| isbn=9781843234883}}
*{{dyf llyfr| awdur=Llion Iwan| teitl=Dafydd Iwan: Bywyd mewn lluniau - A life in pictures| cyhoeddwr=Gwasg Gomer| blwyddyn=2005| isbn=9781843234883}}
*{{dyf llyfr| awdur=E. Wyn James| teitl=Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad| cyhoeddwr=Folk Music Journal| dyddiad=8:5, 2005| tud=594-618| url=http://www.cardiff.ac.uk/insrv/libraries/scolar/digital/welshballads/painting.html}}
*{{dyf llyfr| awdur=E. Wyn James| teitl=Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad| cyhoeddwr=Folk Music Journal| dyddiad=8:5, 2005| tud=594-618| url=http://www.cardiff.ac.uk/insrv/libraries/scolar/digital/welshballads/painting.html}}

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==

Fersiwn yn ôl 15:25, 9 Mehefin 2010

Dafydd Iwan
GalwedigaethGwleidydd, cyfarwyddwr busnes, cerddor

Gwleidydd, canwr poblogaidd a chyfansoddwr caneuon, awdur a chyfarwyddwr busnes o Gymru yw Dafydd Iwan (ganwyd Dafydd Iwan Jones, 24 Awst 1943, Brynaman, Sir Gaerfyrddin).

Gyrfa

Rhwng 1968 a diwedd y 1970au roedd yn un o arweinyddion carismatig mwyaf y frwydr iaith. Drwy gyfrwng ei ganeuon gwleidyddol, poblogaidd, fe ysbrydolodd gannoedd (ac efallai miloedd) o Gymry. Cafodd ei benodi'n Llywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd Jill Evans ASE ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd: bydd yn cymryd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.[1]

Mae'n awdur nifer o lyfrau, a chyfansoddwr dros 250 o ganeuon. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Recordiau Sain; ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd; cadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn; aelod o Ymddiriedolaeth Portmeirion; cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan, Bontnewydd; aelod o Bwyllgor Canolfan Gymunedol a Chapel Caeathro ac yn bregethwr lleyg.

Rhwng 1968 a diwedd y 70au bu'n arweinydd brwd a charismatig Cymdeithas yr Iaith. Bu'n gynghorydd sir Gwynedd dros ward Bontnewydd yn ardal Arfon hyd 1 Mai 2008.

Albymau (mewn trefn gronolegol)

Dafydd Iwan yn perfformio.
  • Yma Mae 'Nghân (1972)
  • Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle (1976)
  • Carlo a Chaneuon Eraill (1977)
  • 20 o Ganeuon Gorau
  • I'r Gad (1977)
  • Bod yn Rhydd (1979)
  • Ar Dan (Live) (1981)
  • Rhwng Hwyl a Thaith (gydag Ar Log) (1982)
  • Yma o Hyd (gydag Ar Log) (1983)
  • Gwinllan a Roddwyd (1986)
  • Dal I Gredu (1991)
  • Caneuon Gwerin (1994)
  • Cân Celt (1995)
  • Y Caneuon Cynnar (1998)
  • Yn Fyw Cyfrol 1 (2001)
  • Yn Fyw Cyfrol 2 (2002)
  • Goreuon Dafydd Iwan (2006)
  • Man Gwyn (2007)
  • Dos i Ganu (2009)

Llyfryddiaeth

  • Llion Iwan (2005). Dafydd Iwan: Bywyd mewn lluniau - A life in pictures. Gwasg Gomer. ISBN 9781843234883

  • E. Wyn James (8:5, 2005). Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad. Folk Music Journal, tud. 594-618. URL

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Ieuan Wyn Jones
Llywydd Plaid Cymru
2003 – presennol
(ers 2006, y llywydd y blaid yn mwyach yr arweinydd cyffredinol y blaid)
Olynydd:
deiliad
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.