Rygbi'r undeb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: hy:Ռեգբի 15
B robot yn ychwanegu: id:Uni rugbi
Llinell 74: Llinell 74:
[[hr:Rugby union]]
[[hr:Rugby union]]
[[hy:Ռեգբի 15]]
[[hy:Ռեգբի 15]]
[[id:Uni rugbi]]
[[it:Rugby a 15]]
[[it:Rugby a 15]]
[[ko:럭비 유니온]]
[[ko:럭비 유니온]]

Fersiwn yn ôl 17:43, 7 Mehefin 2010

Chwaraeon cyswllt llawn ydy Rygbi'r Undeb. Math o bêl-droed ydyw a ddechreuodd yn Lloegr ar ddechrau'r 19eg ganrif [1] Un o reolau rygbi yw bod hawl rhedeg gyda'r bêl yn eich dwylo. Chwaraeir y gêm gan ddefnyddio pêl hirgrwn, ar ddarn laswellt gan amlaf sydd yn 100m o hyd a 70m o led. Ar bob pen, ceir dwy gôl siap y lythyren H.

Dywedir yn aml mai William Webb Ellis a grëodd y gêm o redeg tra'n dal y bêl ym 1823 yn Ysgol Rugby pan dywedir iddo ddal y bêl tra'n chwarae pêl-droed gan redeg at gôl y gwrthwynebwyr. Er mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r hanes hwn, anfarwolwyd stori Ellis yn yr ysgol pan ddatguddiwyd cofed iddo ym 1895. Ym 1848, ysgrifennwyd y rheolau cyntaf gan ddisgyblion - dyma oedd un o'r digwyddiadau cydnabyddedig yn natblygiad cynnar rygbi; mae datblygiadau eraill yn cynnwys penderfyniad Clwb Blackheath i adael Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ym 1863, a'r rhanniad rhwng rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair ym 1895. Y corff sy'n rheoli Rygbi'r Undeb yng Nghymru yw Undeb Rygbi Cymru.

Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.

Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Ewrop a'r Tri Nations yn hemisphere y de yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys y 14 Uchaf yn Ffrainc, y Guinness Premiership yn Lloegr, y Cwpan Currie yn Ne Affrica, a'r Cwpan Air New Zealand yn Seland Newydd. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y Gynghrair Magners (sef cystadleuaeth rhwng y gwledydd Celtaidd), sy'n cynnwys y Gwyddelod, Albanwyr a'r Cymry; y Super 14, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r Cwpan Heineken, sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.

Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.

Safleoedd ar y maes

Blaenwyr

Rheng flaen

Rhif 1 Prop pen rhydd
Rhif 2 Bachwr
Rhif 3 Prop pen tyn

Ail reng

Rhif 4 a 5 Clo (x 2)

Trydydd reng

Rhif 6 a 7 Blaenasgellwr (x 2)
Rhif 8 Wythwr


Cefnwyr

Rhif 9 Mewnwr
Rhif 10 Maswr
Rhif 12 a 13 Canolwr (x 2)
Rhif 11 a 14 Asgellwr (x 2)
Rhif 15 Cefnwr

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Origins of Rugby - Codification -"The innovation of running with the ball was introduced some time between 1820 and 1830."
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.