Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dinas Efrog Newydd"

Jump to navigation Jump to search
No change in size ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Dinas yn [[Talaith Efrog Newydd|Nhalaith Efrog Newydd]] yw '''Dinas Efrog Newydd''' ([[Saesneg]]: ''New York City''). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog yn [[Unol Daleithiau America]] tra bod ardal fetropolitanaidd Efrog Newydd ymysg ardaloedd mwyaf poblog y byd. Dinas ryngwladol flaenllaw ydyw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys y [[Cenhedloedd Unedig]], ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol.
 
Fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannau [[Môr Iwerydd]]. Mae yno bum mwrdeisdref: Y [[Bronx]], [[Brooklyn]], [[Manhattan]], [[Queens]], ac [[Ynys Staten]]. Mae yno boblogaeth amcangyfrifol o 8,274,527 o bobl mewn ardal ychydig ynllai na 305 milltir sgwâr (790 km2km²).<ref>[http://home2.nyc.gov/html/dcp/pdf/lucds/nycprofile.pdf. NYC Profile" (PDF)]. Adran Gynllunio Dinas Efrog Newydd. Adalwyd 2008-05-22.</ref> Poblogaeth amcangyfrifol ardal fetropolitanaidd Efrog newydd yw 18,815,988 o bobl dros ardal o 6,720 milltir sgwâr (17,400 km2km²).<ref>[http://www.census.gov/popest/metro/files/2007/CBSA-EST2007-alldata.csv. Amcangyfrifau Blynyddol Poblogaeth Ardaloedd Metropolitanaidd: Ebrill 1, 2000 tan Gorffennaf 1, 2007]. U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 2008-12-30.</ref>
 
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei threfnidaeth 24 awr, ac am ei dwysedd a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "''Gotham''" a'r "''Big Apple''".
 
Sefydlwyd Efrog Newydd fel canolfan fasnachu gan y ''[[Dutch East India Company]]'' ym 1624. Galwyd y lleoliad newydd yn Amsterdam Newydd tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Brydeinig. Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma yw dinas fwyaf y genedl ers 1790.
 
== Hanes ==
Dechreuodd gwladychiad Ewropeaidd cyntaf o'r ardal yn 1614 a sefydlodd yr Iseldirwyr [[Amsterdam Newydd]] ym 1626, ar ran deheuol Manhattan. Ymsefydlodd nifer o Huguenotiaid yno hefyd, yn chwilio am ryddid crefyddol. Cipwyd y ddinas gan y Saeson yn 1664, a'i hail-enwi'n '"Efrog Newydd'" ar ôl [[Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban|Dug Caerfrog]].
 
Datblygodd pwysigrwydd Dinas Efrog Newydd fel porthladd masnachol tra'r oedd o dan reolaeth Brydeinig. Cynhaliodd y ddinas achos llys arloesol John Peter Zenger ym 1735, a geisiodd sefydlu rhyddid y wasg yng [[Gogledd America|Ngogledd America]]. Ym 1754, sefydlwyd Prifysgol Columbia gan siarter George II o'r [[DU]] fel Coleg y Brenin ym Manhattan Isaf. Cyfarfu Cynghrair y Ddeddf Stamp yn Efrog Newydd ym mis Hydref 1765.
Daeth y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer cyfres o frwydrau mawrion a adwaenid fel [[Ymgyrch Efrog Newydd]] yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]]. Ar ôl Brwydr Ffort Washington ym Manhattan Uchaf ym 1776, daeth yn ddinas yn ganolbwynt gwleidyddol a milwrol Prydain yng Ngogledd America tan ddaeth y meddianaeth milwrol i ben ym 1783. Yn fuan ar ôl hyn, gwnaed Dinas Efrog Newydd yn brifddinas cenedlaethol gan Gynghrair y Conffederasiwn; cadarnhawyd Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac ym 1789, urddwyd [[George Washington]] yn Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yno; cyfarfu Cynghrair cyntaf yr Unol Daleithiau yno am y tro cyntaf ym 1789, a draffiwyd Mesur Hawliau a hyn oll yn y Neuadd Ffederal ar Wall St. Erbyn 1790, roedd Dinas Efrog Newydd wedi goddiweddyd [[Philadelphia]] fel dinas fwyaf yr Unol Daleithiau.
 
Yn ystod y [[19g]] gweddnewidwyd y ddinas gan fewnlifiad a datblygiad. Ehangwyd y grid strydoedd i gynnwys holl ardaloedd Manhattan gan Gynllun y Comisiynnydd ym 1811, a phan agorodd Camlas Erie, cysylltodd porthladd Môr Iwerddon gyda marchnadoedd amaethyddol eang mewndirol Gogledd America. Aeth gwleidyddiaeth lleol o dan ddylanwad Neuadd Tammany, peiriant gwleidyddol a gefnogwyd gan fewnfudwyr [[Iwerddon|Gwyddelig]]. Ymgyrchoedd hen aristocratiaid morol am sefydlu parc ganolog, "''Central Park''", a ddatblygodd i fod y parc tir-luniedig cyntaf mewn dinas Americanaidd ym 1857. Roedd poblogaeth o dduon-rhydd hefyd yn bodoli ym Manhattan, yn ogystal ag yn Brooklyn. Daliwyd [[caethwasiaeth|caethweision]] yn Efrog Newydd tan 1827, ond yn ystod y [[1830au]] daeth yn ganolbwynt yr ymgyrch i ddiweddu caethwasiaeth aml-hil yn y Gogledd.
 
[[Delwedd:Mulberry_Street_NYC_c1900_LOC_3g04637u_edit.jpg|bawd|dde|Stryd Mulberry, ar Ochr Ddwyreiniol Isaf Manhattan, tua 1900]]Arweiniodd ddicter at orfodaeth milwrol yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]] (1861-18651861–1865) at [[Terfysgoedd Drafftio 1863|Derfysgoedd Drafftio 1863]], un o ddigwyddiadau mwyaf cythryblus yn hanes America. Ym 1898, ffurfiwyd dinas fodern Efrog Newydd drwy gyfuno â Brooklyn (a oedd yn ddinas annibynnol cyn hyn), Swydd Efrog Newydd (a oedd yn cynnwys rhannau o'r Bronx), Swydd Richmond a rhan orllewinol o Swydd Queens. Pan agorodd rheilffordd danddaearol Dinas Efrog Newydd ym 1904, llwyddodd hyn i ddod a'r ddinas newydd at ei gilydd. Trwy gydol hanner gyntaf yr [[20g]], roedd y ddinas yn ganolbwynt y byd o ran diwydiant, masnach a chyfathrebu. Fodd bynnag, roedd pris i'w dalu am y datblygiad hwn. Ym 1904, bu tân ar long-stêm y General Slocum yn yr Afon Ddwyreiniol, gan ladd 1,021 o bobl a oedd ar fwrdd y llong. Ym 1911, bu farw 146 o weithwyr dillad yn nhrychineb diwydiannol gwaethaf y ddinas, pan fu tân yn Ffatri Triangle Shirtwaist. Arweiniodd hyn at sefydlu Undeb Rhyngwladol y Gweithwragedd Dillad a gwnaed gwelliannau mewn safonau diogelwch ffatrïoedd.
 
[[Delwedd:NewYorkCityManhattanRockefellerCenter.jpg|bawd|chwith|Dinas Efrog Newydd o'r [[Canolfan Rockefeller|Ganolfan Rockefeller]]]]Yn ystod y [[1920au]], roedd Dinas Efrog Newydd yn gyrchfan boblogaidd i Americanwyr-Affricanaidd yn ystod yr Ymfudo Mawr o [[De America|Dde America]]. Erbyn [[1916]], roedd Dinas Efrog Newydd yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o Affricaniaid dinesig yng [[Gogledd America|Ngogledd America]]. Blodeuodd [[Dadeni Harlem]] yn ystod cyfnod y Gwaharddiad, ynghŷd â thŵf economaidd a welodd y ddinas yn cystadlu i adeiladu'r wybren-grafwyr uchaf. Erbyn dechrau'r 1920au, Dinas Efrog Newydd oedd yr ardal ddinesig fwyaf poblog yn y byd, gydag ardal fetropolitanaidd o dros 10 miliwn o drigolion erbyn dechrau'r [[1930au]]. Yn sgîl yr amodau byw caled a ddaeth ar ôl y [[Dirwasgiad Mawr]], etholwyd y diwygiwr [[Fiorello LaGuardia]] yn [[maer|faer]] y ddinas.
Lleolir Dinas Efrog Newydd yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, yn ne-ddwyrain Talaith Efrog Newydd, oddeutu hanner ffordd rhwng [[Washington, D.C.]] a [[Boston]]. Saif y ddinas ger aber yr [[Afon Hudson]], sy'n bwydo harbwr cysgodol ac yna Mor Iwerddon, ac mae'r lleoliad hwn wedi cynorthwyo'r ddinas i dyfu fel tref masnachol. Adeiladwyd rhannau helaeth o Efrog Newydd ar dair ynys [[Manhattan]], [[Ynys Staten]] a [[Long Island]] a achosodd prinder tir a dwysedd poblogaeth uchel.
 
Llifa'r Afon Hudson drwy [[Dyffryn Hudson|Ddyffryn Hudson]] ac i mewn i Fae Efrog Newydd. Rhwng Dinas Efrog Newydd a Troy, Efrog Newydd, mae'r afon yn aber. Gwahana'r Hudson y ddinas o [[New Jersey]]. Mae Afon y Dwyrain yn llifo o Long Island Sound ac yn gwahanu'r Bronx a Manhattan o Long Island. Mae'r Afon Harlem yn gwahanu Manhattan o'r Bronx.
 
Mae tir y ddinas wedi newid yn sylweddol oherwydd ymyrraeth dynol, gyda rhannau helaeth o dir wedi'u had-ennill ar hyd y glannau ers cyfnod y trefidigaethau Iseldireg. Gwelwyd yr enghraifft amlycaf o ad-ennill tir ym Manhattan Isaf, gyda datblygiadau fel Dinas Battery Park yn ystod y [[1970au]] a'r [[1980au]]. Mae rhai o amrywiadau naturiol topograffeg wedi cael eu llyfnhau, yn enwedig ym Manhattan.
Mae gan Ddinas Efrog Newydd [[hinsawdd is-drofannol llaith]]<ref>[http://koeppen-geiger.vu-wien.ac.at/ World Map of the Köppen-Geiger climate classification] University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31</ref> ac ar gyfartaledd ceir yno 234 o ddiwrnodau o heulwen yn flynyddol.<ref>http://www.weatherbase.com</ref>
 
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 79 – 8479–84&nbsp;°F (26 – 2926–29&nbsp;°C) a thymheredd isaf o 63 – 6963–69&nbsp;°F (17 – 2117–21&nbsp;°C). Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 90&nbsp;°F (32&nbsp;°C) am tua 16 -19 diwrnod bob haf.<ref>[http://www.weatherbase.com/weather/weatherall.php3?s=330527&refer=&units=us Swyddfa Hinsawdd Dinas Efrog Newydd] Adalwyd 2008-11-11</ref>
 
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda'r lleoliadau arfordirol ychydig yn gynhesach, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 38 – 4338–43&nbsp;°F (3 – 63–6&nbsp;°C) a thymheredd isaf o 26 – 3226–32&nbsp;°F (−3 i 0&nbsp;°C), ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r 10au i'r 20au °F (−12 i −6&nbsp;°C) am rai dyddiau. Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 50au neu 60au °F (~10 i 15&nbsp;°C) yn ystod y gaeaf.<ref>[http://nysc.eas.cornell.edu/climate_of_ny.html The Climate of New York] Swyddfa Hinsawdd Talaith Efrog Newydd. Adalwyd 2008-09-01</ref> Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y Gwanwyn a'r Hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.<ref>[http://www.weatherbase.com/weather/weather.php3?s=330527&refer==&units=metric Weatherbase] Swyddfa Hinsawdd Talaith Efrog Newydd. Adalwyd 2008-09-01</ref>
 
{{Hinsawdd Efrog Newydd}}
133

golygiad

Llywio