Hanes Ffrainc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: an:Historia de Francia; cosmetic changes
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ro:Istoria Franței
Llinell 64: Llinell 64:
[[pl:Historia Francji]]
[[pl:Historia Francji]]
[[pt:História da França]]
[[pt:História da França]]
[[ro:Istoria Franţei]]
[[ro:Istoria Franței]]
[[ru:История Франции]]
[[ru:История Франции]]
[[sk:Dejiny Francúzska]]
[[sk:Dejiny Francúzska]]

Fersiwn yn ôl 20:11, 3 Mehefin 2010

Ffrainc yn 1477

Yn y cyfnod clasurol, adnabyddid y dirigaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau neu wladwriaethau Celtaidd. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni.

Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galo-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaidd, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y Saliaid, Sicambri, Chamavi, Tencteri, Chattuarii, Bructeri, Usipetes, Ampsivarii a’r Chatti. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol Afon Rhein, a chawsant eu defnyddio fel foederati gan yr ymerawdwr Rhufeinig Julian (358). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen.

Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.

Yn 1337 dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.

Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.

Gweler hefyd


Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol